Oriel: Y Ffair Aeaf 2021
- Cyhoeddwyd
Llynedd cafwyd siom aruthrol wedi i'r Ffair Aeaf gael ei gohirio. Ond eleni mae'r torfeydd wedi dychwelyd i Lanelwedd i fwynhau diwylliant amaethyddol Cymru.
Dyma ddetholiad o luniau Ffair Aeaf 2021.
Yn mwynhau eistedd ar y peirianwaith oedd Arthur a'i chwaer fach Gwen o Dregaron.
Bleddyn yn dangos rhai o'r moch o'i fferm yn Llannon i'w ffrindiau, Cai a Gruff.
Trafod busnes ac archwilio'r stoc.
Coeden Nadolig yn gefndir i lwyfan yr anifeiliaid a'r cystadleuwyr.
Yn ymweld am y dydd oedd bachwr y Scarlets, Cymru a'r Llewod, Ken Owens
Roedd y gwartheg yn eu holau yn y sioe, gyda chystadlu brwd yn y prif gylch.
Yr efeilliaid, Enfys a Seren o Gwmduad yn Sir Gâr, yn teithio rownd y maes mewn tractor a threilar.
Tywys y ceffylau i gwrdd â'r beirniaid.
Torf yn ymgynnull i weld y bustych.
Caws, cigoedd, cyri, jam, hufen iâ... mae pob math o fwydydd ar gael yn y sioe.
Ocsiwn ddefaid, a oedd yn cynnwys llawer o enillwyr y dydd.
Stephen o Keaey View ger y Drenewydd yn paratoi ei fuwch limousin cross cyn y gystadleuaeth.
Dipyn o adloniant wrth y stondinau; canu carolau er mwyn cadw'n gynnes.
Y pencampwr yn y categori bustach yn cael ei arwain i'r Prif Gylch gan ei berchennog, Richard Wright o Wlad yr Haf.
Derfyn dydd; Cerdded heibio goleuadau'r maes ar ôl diwrnod oer ond llwyddiannus.