'Rhyddhad' wrth ennill achos parcio Llangrannog

  • Cyhoeddwyd
Hannah ThomasFfynhonnell y llun, Hannah Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Hannah Thomas ei bod yn falch ei bod wedi parhau i frwydro

Mae Dirprwy Farnwr Rhanbarth wedi dyfarnu o blaid menyw o Geredigion oedd yn honni nad oedd cwmni parcio wedi dilyn y prosesau cywir wrth geisio hawlio dirwyon ganddi.

Roedd One Parking Solution yn honni eu bod nhw wedi anfon Hysbysiad Tâl Cosb at Hannah Thomas o Gaerwedros, ond roedd y diffynnydd yn mynnu nad oedd hi wedi ei dderbyn.

Mae nifer o bobl wedi cwyno ar ôl cael dirwyon ym maes parcio Llangrannog, sydd yn cael ei redeg gan One Parking Solution ar ran tirfeddiannwr o Abertawe. Mae pobl y pentref wedi annog ymwelwyr i ddefnyddio'r maes parcio rhad ac am ddim ar gyrion Llangrannog yn sgil y cwynion.

Fe aeth Hannah Thomas i'r maes parcio ar y 6 Gorffennaf 2019. Fe dalodd ffrind am ei thocyn wrth iddi newid clwt ei phlentyn.

Ar y 13 Awst, 2019, fe dderbyniodd hi lythyr yn honni nad oedd hi wedi talu Hysbysiad Tâl Cosb, a bod arni bellach £170 i'r cwmni.

Fe ddaeth Ms Thomas o hyd i'r tocyn yn ei char ac e-bostio copi at y cwmni. Fe wrthododd One Parking Solution ag ildio ac fe honnon nhw fod y cais y tu hwnt i'r cyfnod apêl o 28 diwrnod.

Ers mis Awst 2019, mae hi wedi derbyn cyfres o lythyrau gan y cwmni, yn honni bod arni arian iddyn nhw.

Ym mis Mawrth 2021, derbyniodd Ms Thomas gais i dalu £256.34.

Doedd cyfreithwyr y cwmni ddim yn bresennol yn y gwrandawiad yn Llys Sirol Llanelli ac fe aeth yr achos ymlaen yn eu habsenoldeb.

Fe gwestiynodd y Dirprwy Farnwr Rhanbarthol, Graham Carson, a oedd gan y cwmni "rhyw fath o gofnod" o anfon yr Hysbysiad Tâl Cosb.

Mae Ms Thomas yn mynnu na dderbyniodd yr hysbysiad gwreiddiol.

Clywodd y llys bod yn rhaid cyflwyno'r hysbysiadau hyn o fewn 28 diwrnod. Dadl yr amddiffyniad oedd nad oedd Ms Thomas wedi derbyn yr hysbysiad o fewn yr amserlen gyfreithiol honno.

Dywedodd y Barnwr Carson wrth y gwrandawiad bod y diffynnydd wedi bod yn "glir ac yn gyson" yn ei thystiolaeth a doedd y cwmni ddim yn gallu profi eu bod nhw wedi anfon yr hysbysiad.

Disgrifiad o’r llun,

Clywodd y llys nad oedd y cwmni yn gallu profi eu bod nhw wedi anfon yr hysbysiad

Mae perffaith hawl gan gwmnïau hawlio ffioedd parcio yn ôl os ydyn nhw dilyn y prosesau cywir yn ôl Mr Carson. Ychwanegodd ei bod hi'n glir nad oedden nhw wedi dilyn y broses yn yr achos yma ac ar y sail hwnnw roedd e'n "diddymu achos y cwmni i hawlio yn erbyn y diffynydd".

Dywedodd bargyfreithiwr y diffynnydd, Sara Rowlands, bod y cwmni wedi achosi "pryder a rhwystredigaeth" i'w chleient.

Cafodd cais am gostau yn erbyn y cwmni, yn sgil honiadau o ymddygiad afresymol, ei wrthod.

Yn dilyn yr achos, dywedodd Hannah Thomas wrth BBC Cymru ei bod hi yn "teimlo rhyddhad" ac yn falch ei bod hi "wedi cadw i ymladd".

Mae One Parking Solution wedi cael cais i ymateb i'r dyfarniad.

Pynciau cysylltiedig