Penderfyniad munud olaf ar ehangu cynllun pasys Covid
- Cyhoeddwyd
Ni fydd penderfyniad ynghylch a ddylid ymestyn pasys Covid i dafarndai a bwytai yn cael ei wneud tan y "funud olaf", meddai Prif Weinidog Cymru.
Bydd gweinidogion yn ystyried a ddylid ehangu'r cynllun dros yr wythnos nesaf, cyn yr adolygiad nesaf o reolau Covid ddydd Gwener.
Daw hyn wedi i achos cyntaf o'r amrywiolyn Omicron gael ei gadarnhau yng Nghymru ddydd Gwener diwethaf.
Dywedodd Mark Drakeford fod y wybodaeth am Omicron yn datblygu "mor gyflym".
Nid oes tystiolaeth hyd yma i awgrymu y gallai achosi salwch difrifol, gyda swyddogion iechyd yn rhybuddio fod mwy o achosion yn "anochel".
Mae angen tocynnau Covid eisoes ar gyfer sinemâu, theatrau, clybiau nos a digwyddiadau mawr yng Nghymru.
Maen nhw'n dangos a yw rhywun wedi cael ei frechu'n llawn neu ei brofi'n negyddol am Covid yn ystod y 48 awr ddiwethaf.
Dywedodd y prif weinidog wrth raglen Politics Wales nad oedd yn credu y byddai'n ystyried ymestyn pasys i letygarwch pe bai ond wedi bod yn delio â'r amrywiad Delta.
"Mae gennym wythnos arall i fynd," meddai. "Byddwn yn dysgu llawer yn yr wythnos honno am y feirws Omicron.
"Pe byddem yn ei wneud, dim ond helpu'r busnesau hynny i aros ar agor a dal i ddenu cwsmeriaid trwy'r drws fyddai hynny oherwydd byddai pobl yn teimlo'n hyderus bod pawb arall yn y lleoliad hwnnw naill ai wedi'u brechu neu wedi cael prawf llif ochrol.
"Ond nid ydym wedi gwneud y penderfyniad hwnnw, ac ni fyddwn yn gwneud y penderfyniad hwnnw hyd at y diwrnod y mae'n rhaid i ni ei wneud, oherwydd mae amgylchiadau a gwybodaeth yn datblygu mor gyflym o amgylch yr amrywiad newydd y dylech aros i gael y mwyafswm o gwybodaeth y gallwch chi."
Ychwanegodd Mr Drakeford na allai honni bod cynllun pasys Covid yn gwneud gwahaniaeth "uwchlaw'r ffaith ei fod yn gwneud y gwahaniaeth ymylol ychwanegol hwnnw ochr yn ochr â phopeth arall rydych chi'n ei wneud".
Dywedodd hefyd nad oedd unrhyw gynlluniau i ddod â gwyliau ysgol y Nadolig ymlaen ac nad mater i'r llywodraeth oedd dweud wrth bobl a ddylen nhw ganslo partïon Nadolig.
Yn gynharach yr wythnos hon, anogodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan bobl i fod yn wyliadwrus wrth gymdeithasu dan do adeg y Nadolig.
Dywedodd Mr Drakeford: "Rydyn ni i gyd yn gwybod erbyn hyn y pethau ymarferol syml y gallwn eu gwneud i gadw ein hunain yn ddiogel - gwisgo masg, meddwl am bobl eraill, awyru - os ydych chi'n cwrdd â phobl y tu mewn, yn gwneud profion llif ochrol os ydych chi mynd i fod mewn lleoedd gorlawn, a chael un y diwrnod ar ôl hefyd."
Beth ydy ymateb y gwrthbleidiau?
Dywed y Ceidwadwyr Cymreig eu bod yn parhau i wrthwynebu pasys Covid oherwydd nad ydyn nhw'n rhoi "buddion ychwanegol" i atal Covid.
Dywedodd Sam Rowlands, AS Gogledd Cymru, wrth Politics Wales y dylai'r llywodraeth sicrhau bod "pob rhan o'n hegni" yn cael ei rhoi ar waith i gyflwyno brechlynnau atgyfnerthu.
Gofynnodd am ailgyflwyno canolfannau brechu torfol a chyflwyno canolfannau cerdded i mewn, cyflym "ledled y wlad".
Pleidleisiodd Plaid Cymru yn y lle cyntaf yn erbyn cyflwyno pasys Covid yn y Senedd cyn cefnogi'r estyniad i sinemâu a theatrau.
Pan ofynnwyd iddi a fyddai'r blaid yn cefnogi estyniad pellach, dywedodd dirprwy arweinydd Plaid, Sian Gwenllian: "Rhaid i ni rŵan aros o ddifri' i weld sut fydd y sefyllfa ymhen ychydig wythnosau - neu hyd yn oed cyn hynny, gobeithio, bydd gennym fwy o wybodaeth am [Omicron].
"Rhaid i ni ddibynnu ar y dystiolaeth a gwrando ar yr hyn y mae'r arbenigwyr yn ei ddweud cyn cyflwyno unrhyw reoliadau newydd ond os oes eu hangen, mae eu hangen."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd3 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd1 Rhagfyr 2021