Omicron: 'Potensial go iawn' am fwy o gyfyngiadau Covid-19

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
OFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae'n bosib y bydd mwy o gyfyngiadau coronafeirws yn cael eu cyflwyno ar fywyd bob dydd i atal lledaeniad amrywiolyn Omicron, yn ôl arbenigwr.

Cafodd yr achos gyntaf o'r amrywiolyn Covid-19 diweddaraf ei gadarnhau yng Nghymru brynhawn Gwener.

Roedd yr achos, a gofnodwyd yn ardal Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro, yn gysylltiedig â theithio rhyngwladol.

Dywedodd Dr Richard Stanton, darlithydd mewn firoleg ym Mhrifysgol Caerdydd, fod mwy o achosion yn anochel.

Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried a oes angen cyflwyno mwy o gyfyngiadau i geisio arafu lledaeniad yr haint.

Yn y cyfamser, mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y bydd yn rhaid i deithwyr sy'n dod i'r DU ddangos tystiolaeth o brawf PCR neu LFT negatif er mwyn cael mynediad o 04:00 ddydd Mawrth.

'Amser a ddengys'

"Rwy'n credu bod potensial go iawn yma y bydd yn rhaid i ni ddod â mwy o gyfyngiadau yn ôl," meddai Dr Stanton wrth BBC Cymru.

"Mae wedi bod yn braf iawn dros yr wythnosau a'r misoedd diwethaf ein bod wedi gallu codi'r cyfyngiadau hynny a dod yn ôl i normal.

"Ond, fel dwi'n ddweud, hyd yn oed os yw'r brechlynnau'n dal i amddiffyn rhag salwch difrifol - fel y credwn y bydd - os oes nifer fawr o achosion, yna mae hynny'n trosi i dderbyniadau i ysbytai a phwysau ar y GIG a Covid hir."

Yn Iwerddon, bydd clybiau nos yn cau a'r diwydiant lletygarwch yn wynebu cyfyngiadau tynn dros gyfnod y Nadolig, yn sgil yr amrywiolyn newydd.

Ychwanegodd Dr Stanton: "Os yw'r feirws yma'n trosglwyddo'n effeithlon iawn, fel y credwn ei fod, hyd yn oed os ydych chi wedi cael eich brechu, yna mae'n rhaid i ni gadw cyfraddau trosglwyddo ar lefel resymol.

"Os nad yw'r brechlyn ar ei ben ei hun yn ddigon i wneud hynny, yna bydd yn rhaid i ni ddod â mesurau eraill i mewn - gwisgo masgiau, pellhau cymdeithasol a'r mathau hyn o bethau.

"Rwy'n siŵr nad oes unrhyw un eisiau cyrraedd y cam hwnnw [o gyfnod clo], a'r sefyllfa ddelfrydol yw ein bod yn dod â digon o gyfyngiadau i barhau gyda rhywfaint o normalrwydd, wrth gadw'r cyfraddau trosglwyddo dan reolaeth - ond dim ond amser a ddengys."

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Brechu yw'r ffordd orau o atal lledaeniad Omicron o hyd, medd swyddogion iechyd

"Hyd yn hyn pryd bynnag y gwelwn amrywiad newydd yn dod i'r amlwg sy'n gallu lledaenu'n dda rydym wedi methu'n llwyr â'i atal rhag lledaenu ledled y byd," meddai wrth BBC Radio Wales.

"Pan ddaeth yr amrywiad newydd yma i'r amlwg gyntaf nid oeddem yn siŵr a fyddai'n mynd i fod yn blip neu'n rhywbeth mwy difrifol.

"Yr hyn rydyn ni wedi'i weld ers hynny yw ei fod yn lledaenu'n gyflym ac i lawer mwy o wledydd - mae hyn yn golygu ei bod hefyd yn debygol o ledaenu i bobl sydd wedi cael eu brechu mewn ffordd na allai rhai o'r amrywiadau blaenorol."

Disgwyl mwy o ddata

Er hyn, nododd Dr Stanton nad oedd tystiolaeth eto i awgrymu y gallai achosi salwch difrifol - ond byddai angen gweld mwy o ddata i fod yn sicr.

Ychwanegodd: "Ein disgwyliad yn seiliedig ar y ffordd y mae ein systemau imiwnedd yn gweithio yw y byddai'r brechlynnau yn dal i allu eich amddiffyn - ond ar hyn o bryd nid ydym yn gwybod."

Mae swyddog iechyd blaenllaw wedi rhybuddio ei bod am fod yn "heriol iawn" i atal amrywiolyn Omicron rhag lledaenu yng Nghymru.

Yn ôl Dr Meng Khaw, cyfarwyddwr meddygol gweithredol Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae'n "anochel" y bydd rhagor o achosion dros y dyddiau nesaf.

'Prawf newydd' i Omicron

Dywedodd Dr Khaw wrth BBC Radio Wales: "Rydyn ni wedi cysylltu â dros 200 o bobl ers cyhoeddi gwledydd y rhestr goch, ac rydyn ni wedi llwyddo i gysylltu â phawb.

"Rydyn ni wedi rhoi'r mesurau rheoli angenrheidiol ar waith ac rydym hefyd wedi cynnal profion lle bo hynny'n briodol.

"Rydyn ni'n dilyn y canlyniadau profion hynny yn ofalus iawn ac mae gennym ni brawf newydd i brofi'r amrywiad hwn - ac mae hynny bellach ar waith ar draws ein labordai."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried a oes angen rhagor o gyfyngiadau Covid

Ychwanegodd: "Rwy'n synhwyro y bydd gennym fwy o achosion yn dod i'r amlwg dros y dyddiau nesaf.

"Os dechreuwn ddatblygu achosion cymunedol lle nad oes tystiolaeth o deithio, yna byddwn yn gwybod ei fod wedi'i ledaenu i'r gymuned ac yna byddwn yn rhoi mesurau ehangach i geisio gohirio trosglwyddo'r feirws.

"Bydd atal y feirws yn heriol iawn - rydym yn gwybod ei fod yn drosglwyddadwy iawn. Clywsom yn gynharach ei fod yn fwy trosglwyddadwy na Delta - felly mae'n debygol y byddwn yn dechrau cael mwy o achosion.

"Ond yr hyn y gallwn ei wneud yw ceisio ei oedi.

"Gallwn gael negeseuon cyhoeddus allan am gael eich brechlyn atgyfnerthu pan gewch gynnig - ond hefyd gynnal pellter cymdeithasol, golchi'ch dwylo'n rheolaidd ac i ddal i wisgo masgiau wyneb mewn mannau caeedig."

Canfuwyd yr amrywiad Omicron, a gofnodwyd gyntaf yn Ne Affrica, yn y DU ar 27 Tachwedd.

Ers hynny, mae achosion o'r amrywiad wedi'u cadarnhau yn Lloegr a'r Alban.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn gweithredu ar gyngor y Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio (JCVI).

Byddan nhw'n "cyhoeddi manylion pellach am sut y bydd y rhaglen atgyfnerthu yn cael ei hehangu cyn bo hir".

Pynciau cysylltiedig