Scarlets yn ildio gêm dros risg i chwaraewyr wedi cwarantin

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
ScarletsFfynhonnell y llun, Huw Evans Agency

Mae'r Scarlets wedi ildio eu gêm yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop yn erbyn Bryste ddydd Sadwrn, gan fod rhan fwyaf y garfan yn hunan-ynysu yn Belffast.

Mae'r tîm wedi bod yn ynysu ers dychwelyd o Dde Affrica - gwlad a gafodd ei rhoi ar y rhestr goch tra'r oedd y garfan yno i chwarae gêm gynghrair.

Fe fydd y cyfnod ynysu yn dod i ben ddydd Gwener, ond dywedodd y rhanbarth bod "risg corfforol i ddewis unrhyw aelod o'r garfan sydd ar hyn o bryd yn hunan-ynysu".

Ychwanegodd y rhanbarth mai cyfanswm o 14 chwaraewr ffit sydd ganddyn nhw ar hyn o bryd.

Dan reolau'r gystadleuaeth, fe fydd Bryste yn cael buddugoliaeth o 28-0.

Roedd timau eraill wedi cynnig benthyg chwaraewyr i'r Scarlets er mwyn gallu cynnig tîm ar gyfer y gêm, ond dywedodd y rhanbarth "nad oedd hi'n bosib rhoi tîm at ei gilydd y teimlwn oedd yn ddiogel i chwarae [Bryste]".

Dywedodd cadeirydd gweithredol y Scarlets, Simon Muderack, dolen allanol, nad oedd hi'n "benderfyniad rhwydd i'w wneud".

Ychwanegodd ei fod yn "ormod o risg i ofyn i chwaraewyr sydd ar hyn o bryd yng nghwarantin, i chwarae gêm o'r maint a'r dwyster yma un diwrnod ar ôl dod mas o gwarantin".

Ffynhonnell y llun, Getty Images

"Mae rhaid ystyried, mae'r garfan wedi bod yn hunan ynysu ers i'r newyddion dorri am straen Omicron yn gyntaf pan oeddent yn Durban felly ar y cyfan mae hynny'n golygu rhyw 15 diwrnod i gyd," meddai.

"Yn ogystal â hynny, mae sawl chwaraewr heb chwarae ers gêm Benetton ar Hydref 22.

"Fel clwb mae gennym ddyletswydd gofal i'n chwaraewyr."

Ychwanegodd nad oes profion positif am Covid-19 wedi bod o fewn y garfan ers dychwelyd o Dde Affrica.

Mae'r rhan fwyaf o garfan Rygbi Caerdydd hefyd yn hunan-ynysu ar hyn o bryd, ar ôl dychwelyd o Dde Affrica ychydig ddyddiau ar ôl y Scarlets.