Anafiadau difrifol i fachwr y Gweilch mewn gwrthdrawiad
- Cyhoeddwyd
Mae bachwr y Gweilch, Ifan Phillips wedi dioddef "anafiadau fydd yn newid ei fywyd" yn dilyn gwrthdrawiad difrifol rhwng dau feic modur.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad yn Abertawe ddydd Sul, ac fe gafodd Phillips ei gymryd i Ysbyty Treforys.
Dywedodd y Gweilch fod Phillips, mab cyn-fachwr Cymru a Chastell-nedd, Kevin, mewn cyflwr sefydlog yno.
Mae'r bachwr 25 oed wedi chwarae 40 o gemau dros y rhanbarth, a bu'n hyfforddi gyda charfan Cymru yr haf diwethaf.
Fe chwaraeodd dros Grymych, Cwins Caerfyrddin a Chastell-nedd cyn ymuno â'r Gweilch, ble wnaeth ei ymddangosiad cyntaf dros y rhanbarth ym mis Chwefror 2017.
'Ar flaenau ein meddyliau ni oll'
Dywedodd y Gweilch mewn datganiad ddydd Mercher: "Gall y Gweilch gadarnhau fod y bachwr Ifan Phillips wedi bod mewn damwain ffordd ddifrifol yn Abertawe brynhawn Sul ac mae nawr yn cael ei drin yn Ysbyty Treforys.
"Mae Ifan mewn cyflwr sefydlog ac mae ar flaenau ein meddyliau ni oll.
"Ar ran ei gyd-chwaraewyr, hyfforddwyr, holl gefnogwyr y Gweilch a'r gymuned rygbi, rydyn ni eisiau ymestyn ein cefnogaeth lawn i Ifan, ei deulu a'i ffrindiau.
"Mae'r teulu yn ddiolchgar iawn am y gefnogaeth maen nhw wedi'i dderbyn dros y dyddiau diwethaf."
Apêl am wybodaeth
Mae Heddlu De Cymru wedi lansio apêl am wybodaeth yn dilyn y digwyddiad ar y B4603 ger Clwb Cymdeithasol Glandŵr ddydd Sul.
Dywedodd y llu mai beiciau modur Triumph Street Scrambler a Kawasaki oedd yn rhan o'r gwrthdrawiad, ac mai un person gafodd ei gymryd i'r ysbyty yn dilyn y digwyddiad.
Ychwanegon nhw eu bod yn awyddus i siarad gydag unrhyw un sydd â "lluniau dash-cam o'r digwyddiad, unrhyw un wnaeth stopio i helpu, neu unrhyw un welodd y beiciau modur yn cael eu gyrru cyn y gwrthdrawiad".