Cwpan Her Ewrop: Perpignan 22-16 Dreigiau
- Cyhoeddwyd
Colli wnaeth y Dreigiau yn erbyn Perpignan yng Nghwpan Her Ewrop nos Sadwrn.
Y Dreigiau a ddechreuodd gryfaf gyda Sam Davies yn sgorio naw pwynt drwy giciau cosb ond fe fethon nhw â manteisio ymhellach ar yr adeg pan mai dim ond 13 dyn oedd gan Perpignan.
Wedi awr o chwarae roedd yna gais, wedi cryn amheuaeth, i'r tîm cartref ac roedd Tavis Knoyle ac Adam Warren o'r Dreigiau wedi'u gyrru o'r cae am droseddu.
Fe roddodd y cais gryn hyder oherwydd toc daeth cais arall gan Tom Ecochard ac yn fuan roedd yna drydydd cais gan Baptiste Plana i Perpignan ac roedden nhw ar y blaen o 22-9.
Ond doedd y Dreigiau ddim yn ildio a dyma cais Jamie Roberts yn dod â gobaith newydd i'r Cymry.
Er pob ymdrech doedd yna ddim sgôr wedi'r cais hwnnw a'r sgôr terfynol oedd Perpignan 22-16 Dreigiau.