YesCymru: 'Y mudiad wedi ei rwygo'
- Cyhoeddwyd
Bu cyfarfod cyffredinol eithriadol o YesCymru ddydd Sadwrn i geisio pleidleisio ar strwythur a chyfansoddiad newydd i'r mudiad.
Ond bu'n rhaid ymestyn y cyfnod pleidleisio a gofyn i rai aelodau bleidleisio eto yn dilyn problemau technegol.
Mae adroddiadau ar-lein yn awgrymu bod y mudiad wedi colli bron i 10,000 o aelodau - o 17,000 i 8,000.
Dydy hi ddim yn glir eto beth sydd wedi achosi'r gostyngiad, ond yn ôl y rhai fu'n rhan o'r cyfarfod fore Sadwrn, mae'n ymwneud â phroblemau adnewyddu aelodaeth nifer o bobl.
Dadlau mewnol
Mae YesCymru yn fudiad sydd wedi llwyddo i ddenu miloedd i'r achos dros annibyniaeth ac ers y pandemig, mae twf anferth wedi bod yn ei aelodaeth.
Ond dros y misoedd diwetha', mae YesCymru wedi eu plagio gan ddadlau a checru mewnol.
"Mae'r mudiad wedi cael ei rwygo a dwi'n meddwl, os oes 'na modd i'w achub o, achos fel brand oedd o'n hynod effeithiol," meddai Huw Marshall, cyn aelod o bwyllgor canolog YesCymru.
"Dwi jyst yn poeni rŵan, beth bynnag ydy canlyniad (y cyfarfod) ma 'bod 'na ddwy garfan sydd ddim yn mynd i ddod ynghyd."
Cynnig newydd
Does dim pwyllgor canolog na chadeirydd parhaol wedi arwain YesCymru ers yr haf. Yn hytrach, mae 'na weithgor o wirfoddolwyr o ganghennau gwahanol, wedi bod yn gweithio ar gynnig i ailwampio'r cyfansoddiad a newid ei strwythur.
Y gobaith yw ethol pwyllgor newydd yn y pendraw, gyda'r bwriad o geisio symud y mudiad ymlaen ac anghofio'r misoedd tymhestlog diwethaf. Ond nid pawb sy'n hapus gyda'r hyn sy'n cael ei gynnig.
"Mae cyfansoddiad YesCymru ar y funud fath a mae o, yn sicrhau bod merched a phobl o grwpiau ethnig lleiafrifol yn cael eu cynnwys ar yr pwyllgor canolog," meddai Elin Hywel, cyn-aelod o bwyllgor canolog YesCymru.
Dywedodd na fydd yn cefnogi'r cynnig newydd.
"Am ba reswm, dwi ddim yn siŵr ond mae hynna wedi cael ei dynnu allan o'r cynnig yma."
Ond mae eraill o fewn YesCymru yn dadlau bod y cynigion yn proffesiynoli'r mudiad.
Mae pobl sydd wedi siarad â rhaglen Newyddion S4C, yn dweud bod y cyfansoddiad yn nodi'n glir yr angen i fod yn groesawgar ac yn agored, gan gynnwys pawb, waeth o ba cefndir, yn yr ymgyrch dros annibyniaeth.
Doedd neb o'r gweithgor, fuodd yn gweithio ar y cynigion newydd, ar gael i siarad na rhoi datganiad, ond maen nhw wedi dweud yn y gorffennol bod gweledigaeth a gwerthoedd YesCymru yn nodi'r angen am Gymru annibynnol sy'n ddiogel ac yn agored i bawb.
Ni chafwyd ymateb gan YesCymru.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd9 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd17 Ionawr 2021