Y Bencampwriaeth: Abertawe 1-4 Nottingham Forest
- Cyhoeddwyd
Fe gollodd yr Elyrch eu trydedd gêm yn olynol brynhawn Sadwrn wrth i Nottingham Forest eu curo o bedair gôl i un adref yn y Bencampwriaeth.
Roedd y canlyniad hyd yn oed yn fwy siomedig wrth i'w cyn-reolwr Steve Cooper ddychwelyd i Abertawe fel rheolwr Nottingham Forest.
Roedd hanner cyntaf Abertawe a Nottingham yn un agos a'r ddau dim yn cael eu cyfleoedd ond yr un o'r ddau yn rhwydo.
Fe ddechreuodd Forest yr ail hanner fel taran - o fewn pedair munud roeddent wedi sgorio ddwywaith.
Daeth y gôl gyntaf drwy ergyd rymus gan Philip Zinckernagel i gongl dde uchaf y rhwyd, yna ddwy funud yn ddiweddarach fe groesodd Brennan Johnson y bêl yn grefftus ac fe blannodd Lewis Grabban hi yn y rhwyd.
Daeth Abertawe yn ôl i'r gem ddeuddeg munud yn ddiweddarach gyda Joel Piroe ar ymyl cwrt cosbi'r ymwelwyr a chyda foli rymus fe sgoriodd ei unfed gôl ar ddeg o'r tymor.
Yna daeth camgymeriad mawr gan Ben Hamer y gôl-geidwad, yn hytrach na dal pêl wantan a anelwyd ato fe'i pwniodd hi allan yn syth at draed Brennan Johnson ac fe sgoriodd yntau yn unionsyth.
Ond fe aeth poen cefnogwyr Abertawe yn waeth pan sgoriodd Ribeiro Dias y bedwaredd i Forest.
Colled go drom i Abertawe felly a'r golled yn dod yn bennaf drwy chwarae blêr gan yr Elyrch.