Cwpan Pencampwyr Ewrop: Gweilch 13-21 Sale
- Cyhoeddwyd
Roedd yna siom i'r Gweilch brynhawn Sul yn eu gêm gyntaf o'r tymor yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop wrth iddyn nhw golli o wyth pwynt yn erbyn Sale.
Sale oedd ar y blaen hanner amser (21-3) wedi ceisiau gan Rohan Janse van Rensburg, Ewan Ashman a Jean-Luc du Preez.
Ond doedd y Gweilch ddim am ildio ac yn yr ail hanner fe gafwyd cais gan Luke Morgan wrth i Lood de Jager a Ben Curry gael cardiau melyn.
Er na lwyddon nhw i ennill pwyntiau yn yr ail hanner Sale oedd yn fuddugol - y sgôr terfynol yn Abertawe oedd 13-21.
Fe ddaeth y golled ar wythnos anodd i'r Gweilch - yn gynharach yn yr wythnos daeth y newyddion bod bachwr y Gweilch, Ifan Phillips wedi dioddef "anafiadau fydd yn newid ei fywyd" wedi gwrthdrawiad difrifol rhwng dau feic modur.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Rhagfyr 2021