Pobl fregus yn 'colli allan ar lawenydd y Nadolig'
- Cyhoeddwyd
Mae rhai pobl fregus yn dweud eu bod yn "colli allan ar lawenydd y Nadolig" wrth barhau i gysgodi'n answyddogol.
Daeth y cyfnod cysgodi i ben yn swyddogol ym mis Ebrill.
Ond dywedodd un cyn-nyrs fregus ei bod hi "heb stopio cysgodi'n llwyr" hyd heddiw.
Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn cais am sylw.
Mae Helen Williams yn un o'r 130,000 o bobl yng Nghymru gyda chyflyrau iechyd sy'n eu gwneud yn fregus, ac a gafodd gais i gysgodi.
Cafodd Ms Williams trawsblaniad aren 10 mlynedd yn ôl wnaeth newid ei bywyd.
O ganlyniad i ymateb ei system imiwnedd i'r llawdriniaeth, mae'n rhaid i Ms Williams gymryd steroidau i sicrhau nad yw ei chorff yn gwrthod yr aren.
Mae'r steroidau yn gwanhau ei system imiwnedd, sydd yn ei gwneud hi'n agored iawn i Covid.
Mae'r gyn-nyrs, i bob pwrpas, wedi treulio 19 mis mewn rhyw fath o gyfnod clo.
Dywedodd y fam o ardal Margam: "Pan dwi'n gadael y tŷ, does yna ddim adeg pan nad ydw i'n teimlo gorbryder.
"Os oes angen i fi fynd i siopa a dwi'n gweld nad yw pobl yn gwisgo mygydau, mae'n rhoi braw.
"Tra bod y mwyafrif o bobl yn mynd mas a chymdeithasu ar gyfer y Nadolig, dwi'n tynnu yn ôl - ac mae hynny'n fy ngwneud i'n drist.
"Y Nadolig hyn rydyn ni wedi gorfod canolbwyntio ar bawb yn aros yn iach a pheidio a gwneud unrhyw beth na chymdeithasu gydag unrhyw un fyddai'n medru effeithio ar fy iechyd.
"Mae hyn yn faich dwi'n eitha' parod i'w chario, ond mae'n eithaf heriol i fy merch.
"Tra gallai nifer o bobl ddal yr haint a gwella, galla i ei ddal a marw, a'r peth arall yw os nad ydw i'n marw mi fyswn i'n debygol iawn o golli fy nhrawsblaniad."
'Roeddwn i eisiau Dolig gwahanol eleni'
Ddydd Mawrth, dywedodd y Dirprwy Brif Swyddog Meddygol Gill Richardson y dylai pobl fregus "wneud eu hasesiadau risg eu hunain" cyn gadael y tŷ.
Pan ddaeth cysgodi i ben yng Nghymru ym mis Ebrill, dywedodd y Prif Swyddog Meddygol Frank Atherton ei fod yn annhebygol y byddai'n dod yn ôl.
Yn ôl Dalila Tremarias o Gaerdydd, y realiti yw bod pobl fregus yn parhau i fyw bywydau cyfyngedig.
Mae gan Ms Tremarias, 34, gyflwr hunan-imiwn sydd yn ymosod ar ei chorff. Mae hi wedi bod ar feddyginiaeth sydd yn atal ei system imiwnedd am dros 10 mlynedd.
Dywedodd Ms Tremarias, sydd yn fam i fab pedair oed, bod amrywiolyn Omicron wedi achosi iddi feddwl eto am ei chynlluniau ar gyfer y Nadolig.
"Roeddwn i am fynd i ymweld â theulu a ffrindiau a chael Dolig gwahanol eleni o'i gymharu â llynedd, oedd mor anodd wrth ynysu," meddai.
"Mi fyswn i'n caru gallu mynd ati i gynllunio fy Nadolig, ymlacio a mwynhau'r amser yna eto gyda theulu a ffrindiau."
Ar hyn o bryd, dim ond chwarae tu allan mae Ms Tremarias a'i mab yn ei wneud.
"Gyda'r Nadolig mae'n neis iawn, felly mae o'n gallu cerdded a gweld yr addurniadau. Mae'n dda iddo fe, i'w iechyd meddwl hefyd i fedru treulio amser tu allan i'r tŷ."
'Dyw hi ddim yn teimlo fel Dolig'
Mae astudiaethau wedi darganfod bod pobl sydd â system imiwnedd gwan yn creu llai o wrthgyrff ar ôl cael brechlyn na phobl eraill.
Nid yw gwrthgyrff yn gwbl gyfrifol am greu imiwnedd, ond maen nhw'n rhan allweddol ohono.
Oherwydd hyn, mae trydydd brechlyn wedi cael ei gynnig i bobl fregus.
Mae Johanna Greenaway, 79, yn byw yng Nghaerffili gyda'i gŵr. Cafodd ddiagnosis o lewcemia lymffosytig cronig yn 2009, ac mae hi'n derbyn triniaeth ar ei gyfer.
Mae ei meddyginiaeth yn ei gwneud hi'n fregus iawn, ac yn golygu nad yw'n debygol fod y brechlyn wedi ei diogelu hi o gwbl rhag Covid.
Mae hi wedi bod yn ofalus iawn trwy gydol y pandemig achos hyn.
"Dydw i ddim yn mynd i ddigwyddiadau cymdeithasol," meddai.
"Yr unig beth 'nes i ddechrau 'nôl ym mis Medi oedd clwb blodau, ond roedden ni'n cwrdd mewn neuadd mawr iawn a dim ond chwech o bobl oedd yna, felly ro'n i'n eithaf cyfforddus yn gwneud hynny."
Yn y gorffennol, roedd Ms Greenaway yn mynd i'r eglwys yn rheolaidd ac yn aelod o Sefydliad y Merched. Roedd hi'n gwirfoddoli gyda Macmillan a Blood Cancer UK.
"Y pethau pob-dydd dwi'n eu colli. Jyst cwrdd â ffrindiau am goffi.
"Dydw i ddim yn teimlo fel ei fod yn Ddolig. Dwi heb gymryd rhan mewn unrhyw siopa i'r teulu, dydw i heb fod i unrhyw le lle gewch chi awyrgylch y Nadolig.
"Y dathliadau a gwasanaethau'r eglwys a phethau fel yna, dwi wedi colli allan ar lawenydd y Nadolig."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd30 Ionawr 2021