Ymestyn y cyfnod cysgodi i'r bobl fwyaf bregus

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
cysgodiFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r bobl fwyaf bregus yng Nghymru wedi cael eu cynghori i beidio gadael eu cartrefi tan fis Ebrill.

Yn wreiddiol, cynghorwyd tua 130,000 o bobl - sy'n cael eu hystyried yn hynod fregus oherwydd cyflyrau iechyd sylfaenol - i aros gartref ac ynysu oddi wrth eraill.

Daeth hyn i stop am gyfnod ym mis Awst, ond ailddechreuodd y cyfnod cysgodi cyn y Nadolig yn sgil cynnydd mewn achosion coronafeirws.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymestyn y cyfnod cysgodi presennol o 7 Chwefror i 31 Mawrth.

Mewn datganiad ysgrifenedig, dolen allanol, dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, ei fod yn gweithredu ar gyngor Prif Swyddog Meddygol Cymru.

Dywedodd fod yr estyniad oherwydd "nifer uchel yr achosion o feirws yn ein cymunedau" ac effeithiau "amrywiadau newydd o'r feirws".

'Anfon llythyrau dros y pythefnos nesaf'

Ymhlith y rhai sy'n cael eu cynghori i gysgodi mae derbynwyr trawsblaniad organ, pobl â chanserau penodol a'r rheini â chyflyrau anadlol difrifol fel ffibrosis systig.

Dywedodd Mr Gething y byddai'n anfon llythyrau at bobl dros y pythefnos nesaf, ac y byddai'r rhai sy'n cysgodi yn cael eu gwahodd i dderbyn eu dos cyntaf o frechlyn Covid-19 erbyn canol mis Chwefror.

Cafodd 737 achos a 23 marwolaeth yn gysylltiedig â coronafeirws eu cofnodi gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ddydd Sadwrn.

Yn y cyfamser, mae 378,200 o bobl yng Nghymru wedi derbyn un dos o'r brechlyn Covid-19, gan gynnwys 69.1% o bobl dros 80 oed.

Pynciau cysylltiedig

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol