Cwpan Her Ewrop: Dreigiau 28-41 Lyon
- Cyhoeddwyd
Y Dreigiau 28-41 Lyon
Colli wnaeth y Dreigiau am y chweched tro yn olynol yn erbyn Lyon yng Nghwpan Her Ewrop nos Wener.
Lyon oedd yr ymwelwyr â Rodney Parade wedi i'r Dreigiau golli'r penwythnos diwethaf yn Perpignan.
Ond wedi i'r tîm o Ffrainc gael tri chais yn yr hanner cynta roedden nhw wedi sicrhau'r fuddugoliaeth erbyn hanner cynta'r ail hanner.
Fe wnaeth y tîm cartre geisio taro'n ôl a chael tri chais ond methu wnaethon nhw a manteisio gyda'r Ffrancwyr yn dychwelyd i Lyon gyda buddugoliaeth.
Colli disgyblaeth
Roedd 'na ddau gais i Ethan Dumortier a cheisiadau hefyd i Alfred Parisie a Jonathan Pélissié ar ran y tîm cartre' gyda Leo Berdeu yn sgorio 21 pwynt.
Mesake Doge, Aki Seiuli ac Aaron Wainwright gafodd geisiau'r Dreigiau gyda Sam Davies yn cicio 13 pwynt.
Fe wnaeth yr ymwelwyr golli disgyblaeth wrth i'r canolwr Thibaut Regard a'r eilydd o fachwr Mickael Ivaldi gael cardiau melyn yn yr ail hanner ond wnaeth y tîm cartref ddim manteisio yn llawn er bod ganddyn nhw ddyn ychwanegol am ugain munud.
Dyma wythfed colled i ddynion Dean Ryan mewn naw gêm y tymor yma.
Fe gafodd y gem ei chwarae er bod 'na reolau newydd wedi eu cyflwyno ar deithio i Ffrainc gan arwain at saith o gemau'r penwythnos wedi eu gohirio.
Roedd Lyon wedi cyrraedd Cymru cyn y cyhoeddiad hwnnw ac yn dychwelyd gyda phwynt bonws wedi'r fuddugoliaeth o flaen 3,025 o gefnogwyr.