Cwpan Pencampwyr Ewrop: Harlequins 43-17 Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Colli oedd hanes tîm Rygbi Caerdydd oddi cartref yn erbyn Harlequins yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop er iddyn nhw roi mwy o her nag oedd i'w ddisgwyl gyda gymaint o chwaraewyr ddim ar gael.
Roedd 32 o aelodau'r garfan yn absennol yn sgil cyfnod mewn cwarantin wedi taith y clwb i Dde Affrica, ac roedd 10 yn rhagor oherwydd anafiadau neu waharddiadau.
Y tîm cartref felly oedd y ffefrynau clir i ennill cyn y chwiban cyntaf, ond roedd y gêm yn dal yn y fantol tan yn gynnar yn yr ail hanner ac fe frwydrodd chwaraewyr ifanc Caerdydd yn gryf drwy hanner cyntaf cyffrous ac agored.
43-17 oedd y sgôr terfynol. Cameron Winnett, James Botham a Theo Cabango wnaeth sgorio ceisiau Caerdydd, gyda throsiad gan Tomos Williams yn gyfrifol am weddill y pwyntiau.
Cafodd Caerdydd ddechrau arbennig wedi i Winnett dirio o fewn pum munud, yn ymddangosiad cyntaf y cefnwr 18 oed i'r tîm.
Chwe munud yn unig y barodd y fantais wedi cais Danny Care i'r tîm cartref.
Yn absenoldeb Josh Adams, a gafodd ei hel i'r gell gosbi, llwyddodd Caerdydd i fynd ar y blaen am yr eildro gyda chais Botham (12-7).
Ond erbyn iddo ddychwelyd i'r maes roedd cais gwych Marcus Smith, a'i drosiad canlynol, wedi rhoi pencampwyr y gynghrair ar y blaen am y tro cyntaf.
Gyda'r Harlequins yn codi gêr, agorodd cic gosb Smith y bwlch i 17-12, ond doedd dim golwg bod Caerdydd yn gwangalonni.
Sgoriodd Cabango chwip o gais gan wibio i lawr yr asgell ac ochrgamu cyn tirio, a chyfartal 17-17 oedd y sgôr wedi hanner cyntaf cyffrous.
Ond fe gollodd Caerdydd eu gafael ar y gêm wedi'r egwyl, gan ildio tri chais o fewn 10 munud ar ddechrau'r chwarter olaf.
Roedd dau ohonyn nhw gan Alex Dombrandt, enillydd wobr seren y gêm, ac un gan Joe Marchant, a sicrhaodd bwynt bonws i'r Harlequins.
Fe geisiodd Caerdydd daro'n ôl ac roedd Seb Davies yn meddwl ei fod wedi croesi'r llinell wedi 72 o funudau ond ym marn y TMO, nid oedd yn ddilys.
Sgoriodd Andre Esterhuizen chweched cais Harlequins a selio buddugoliaeth gyfforddus yn y pen draw.