'Fyddwn ni'n diolch am byth am be' wnaeth Wali i Dyl'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

"Mae Wali yn dy warchod di": Perthynas arbennig Dylan a'i arwr

Dywed teulu bachgen awtistig o Lannerch-y-medd ym Môn y byddan nhw'n fythol ddiolchgar am gymorth y cymeriad Wali Tomos i'w mab Dylan.

Wrth siarad â BBC Cymru, dywedodd Iris Williams bod y cymeriad Wali Tomos wedi bod o gymorth mawr mewn cyfnod anodd wedi i Dylan, yn sydyn, ddechrau peidio bwyta nac yfed am gyfnod hir.

Bu farw Mei Jones yr actor a oedd yn cymeriadu Wali Tomos yn gynharach eleni yn 68 oed.

"Cafodd Dylan ddiagnosis o awtistiaeth pan o'dd o'n dair oed - ac mae'n 23 rŵan," meddai Mrs Williams, "mae 'di bod yn amser reit heriol a deud y gwir ar hyd y blynyddoedd.

"Mae gan Dylan ei routine bob amser a phan o'dd o tua saith oed fe gymerodd o ddiddordeb mawr yn C'mon Midffîld ac mae'n dal i sbio arno bob nos.

"Weithiau fydd o'n mynd i'r gwely tua 6 ac ella fydd C'mon Midffîld ymlaen am oria' ond mae o'n hapus."

Ffynhonnell y llun, Iris Williams
Disgrifiad o’r llun,

'Fyddwn ni'n diolch am byth am be' wnaeth Wali i Dylan,' medd Iris Williams

Dywedodd Iris Williams ei bod yn adnabod Mei Jones ers yn ifanc - y ddau yn cystadlu mewn eisteddfodau lleol - a'i bod wedi ailffurfio'r cysylltiad mewn noson lle roedd Wali Tomos yn diddanu y côr a berthynai iddo.

"Y noson honno mi fues i'n dweud hanes Dyl wrtho a dyma Mei'n deud 'Ti'n meddwl 'sa fo'n helpu... 'swn i'n' dod lawr i weld Dylan fel Wali?'

"Mi na'th Dylan stopio bwyta mwya' sydyn a na'th o ddim bwyta nac yfed am flwyddyn a hanner, O'dd hynny yn amser ofnadwy de' ac er bod llawer yn gofyn i fi doeddwn i ddim yn gwybod pam," ychwanegodd.

'Ma' Wali yn dy warchod'

Pan ddoth Mei Jones fel Wali Tomos, un noson, dywed Iris Williams bod y teulu i gyd wedi gwirioni ond neb yn fwy na Dylan ei hun.

Ffynhonnell y llun, Iris Williams
Disgrifiad o’r llun,

'Roedd y teulu wedi gwirioni pan ddaeth Wali draw,' meddai Iris Williams

"O'dd Dylan yn y llofft... a'r C'mon Midffild ar... a na'i byth anghofio ei wyneb o, dyma fo nôl yn syth i'r llofft, a sbio ar y teledu... o'dd o methu dallt. O'dd Wali ar y teledu, ac o'dd Wali yn y tŷ! O'dd y teulu i gyd yna. Ro'n nhw wedi gwirioni de.

"Fe ddaeth o hefyd i barti Dylan yn 18 oed i ddiddanu... Mi ddo'th drwy'r drws a phawb yn gweiddi. Mi o'dd o'n annwyl tu hwnt ac yn trio ei orau efo Dyl," ychwanegodd.

"Mi gafodd Dylan lun gan Mei ar ei ben-blwydd yn 18 - llun mawr ohono fel Wali ac ma' hwnna wrth ben ei wely o ac fe fyddai i'n dweud bob nos jyst 'Ma' Wali yn dy warchod di'.

"Os fydda 'na r'wbath fyddai o'n gallu ei wneud mi fydda'n fo'n gneud. Mi fyddai'n ffonio bob hyn a hyn a'r cwestiwn cyntaf fyddai 'Sut mae Dyl?' Ro'dd hynny yn golygu llawer yn doedd?

"Fe fyddwn ni'n diolch am byth am yr hyn a wnaeth Mei Jones. Roedd hi'n drist clywed y newyddion am ei farwolaeth ond fydd Wali byth farw tra bydd C'mon Midffîld a Dyl," meddai.

Pynciau cysylltiedig