Un o gewri'r byd codi pwysau Myrddin John wedi marw
- Cyhoeddwyd
Bu farw'r codwr pwysau a'r gweinyddwr chwaraeon Myrddin John yn 88 oed.
Fe gystadlodd dros Gymru yng Ngemau'r Gymanwlad yng Nghaerdydd yn 1958.
Roedd yn bennaeth Cyngor Gemau'r Gymanwlad dros Gymru rhwng 1982 a 2005 ac yn Is-lywydd am oes y Ffederasiwn Codi Pwysau Rhyngwladol.
Fe lwyddodd hefyd, ar ôl ymgyrchu am ddegawdau ar ei liwt ei hun, i sicrhau cydnabyddiaeth i Gymru fel gwlad ar wahân ym mhencampwriaethau codi pwysau Ewrop a'r byd.
Ef oedd Ysgrifennydd Cyffredinol Codi Pwysau Cymru rhwng 1966 a 2013, ac fel athletwr, hyfforddwr, rheolwr neu chef de mission fe gymrodd ran yng Ngemau'r Gymanwlad a'r Gemau Olympaidd ar 11 o achlysuron yr un.
Roedd yn aelod o Gyngor Chwaraeon Cymru am chwe blynedd ac fe gafodd ei anrhydeddu gyda gwisg wen yr Orsedd ac yna'r MBE yn 1983 am ei gyfraniad i'r byd chwaraeon.
Cafodd Myrddin John ei eni ym Metws ger Rhydaman, a'i addysgu yn Ysgol Ramadeg Dyffryn Aman.
Yn dilyn cyfnod o Wasanaeth Cenedlaethol gyda'r Llu Awyr Brenhinol fe hyfforddodd i fod yn athro chwaraeon. Bu'n dysgu mewn sawl ysgol a bu'n weithgar gyda'r Urdd.
Fe ymddeolodd o weinyddiaeth chwaraeon yn gyfan gwbl yn 2011.
"Mae wedi bod yn ddylanwad sylweddol a mawr ei barch o fewn chwaraeon Cymru dros y blynyddoedd," meddai Helen Phillips, Cadeirydd Gemau'r Gymanwlad Cymru.
"Rydym yn danfon ein cydymdeimladau o'r galon i'w deulu ar yr adeg anodd hwn."
Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd ei fab-yng-nghyfraith, Paul Mainwaring bod "Cymru wedi colli dyn gwirioneddol fawr".
"Ychwanegodd: "Roedd gydag e angerdd dros Gymru, ei hiaith, diwylliant a chwaraeon na welwn ni gymaint ohono y dyddiau hyn... roedd yn ysbrydoliaeth i gymaint o bobl."