Llangain: Menyw, 74, wedi marw mewn tân byngalo
- Cyhoeddwyd

Cafodd yr heddlu, ambiwlans a'r gwasanaeth tân eu galw i Dol y Dderwen ddydd Mercher
Mae menyw 74 oed wedi marw ar ôl i fyngalo fynd ar dân yn Sir Gâr.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ardal Llangain, Caerfyrddin, tua hanner dydd ar 29 Rhagfyr.
Cafwyd hyd i gorff y fenyw mewn tŷ unllawr yn Nol y Dderwen.
Mae ymchwiliad i'r digwyddiad yn parhau ond nid yw ei marwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus.