Buddugoliaeth i'r Scarlets mewn diweddglo dramatig
- Cyhoeddwyd
Scarlets 22-19 Gweilch
Daeth diweddglo dramatig ar Barc y Scarlets wrth i'r tîm cartref sicrhau buddugoliaeth a phwynt bonws ar ôl bod ar ei hôl hi am y rhan fwyaf o'r gêm.
Y Scarlets aeth ar y blaen yn gynnar diolch i gais y mewnwr Gareth Davies a throsiad Dan Jones, ond mewnwr y Gweilch, Rhys Webb a'i gwnaeth hi'n gyfartal gyda throsiad Josh Thomas.
O fewn dim aeth yr ymwelwyr ar y blaen diolch i gyflymder anhygoel gan Luke Morgan. Fe groesodd am gais, ond methu gyda'r trosiad wnaeth Thomas ac roedd hi'n 7-12 ar yr egwyl.
Croesodd Steff Evans wedi'r egwyl, ond gyda Rhys Patchell yn methu wrth geisio cicio am y pwyntiau ychwanegol, roedd hi'n gyfartal 12-12.
Ond yna eiliad o ysbrydoliaeth eto gan Rhys Webb wnaeth sicrhau ei ail gais yn y gêm, a gyda Thomas yn trosi roedd y Gweilch ar y blaen o 12-19 gyda cwta hanner awr yn weddill.
Daeth gobaith i'r Scarlets pan redodd Johnny McNicholl hanner hyd y cae i sgorio cais, ond gyda'r trosiad eto yn methu roedden nhw'n dal ar ei hôl hi 17-19.
Ond yna gyda dau funud o'r 80 yn weddill, fe groesodd McNicholl eto yn dilyn gwaith pasio da i sicrhau pwynt bonws i'r Scarlets.
Methiant oedd y trosiad unwaith eto, ac roedd ychydig eiliadau nerfus gan y tîm i amddiffyn mantais o driphwynt yn unig, ond fe lwyddon nhw i wneud hynny.