Ymddiheuriad am 'greu pryder' drwy newid sgrinio serfigol

  • Cyhoeddwyd
Sgrinio SerfigolFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae ICC wedi ymestyn y bwlch rhwng profion serfigol yng Nghymru i bobl sydd ddim yn dangos risg uchel o HPV yn eu profion

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi ymddiheuro am "unrhyw gymhlethdod neu bryder" ar ôl cyhoeddi newidiadau i drefn sgrinio serfigol yng Nghymru.

Ers 1 Ionawr, mae'r bwlch rhwng apwyntiadau sgrinio i bobl 25 - 49 oed wedi newid o dair mlynedd i bump, os nad oes feirws HPV yn cael ei ganfod yn eu prawf sgrinio nesaf.

Mae'r dull hwn o sgrinio yn gallu adnabod os oes risg uwch o ganser gan y person.

Mae deiseb a gychwynnodd i atal y newid wedi cael ei arwyddo gan o dros 250,000 o bobl ers dydd Mawrth.

Fe rannodd Iechyd Cyhoeddus Cymru neges ar y cyfryngau cymdeithasol ddydd Mercher yn dweud: "Mae'n ddrwg gennym nad ydym wedi gwneud digon i esbonio'r newidiadau i sgrinio ceg y groth ac wedi achosi pryder."

Dywedodd Dr Sharon Hillier, Cyfarwyddwr Adran Sgrinio yn Iechyd Cyhoeddus Cymru eu bod wedi gwneud y newidiadau er mwyn "arbed mwy o fywydau".

Cafodd profion HPV eu cyflwyno yng Nghymru yn 2018 ac mae tua 9 o bob 10 canlyniad yn dangos nad oes risg uchel o HPV.

Mae'r Pwyllgor Cenedlaethol Sgrinio y DU wedi argymell profi bob pum mlynedd.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dr Sharon Hillier o ICC ei bod "yn sori am beidio egluro'r newidiadau a gwahanol lwybrau sgrinio" yn llawn

Eglurodd Dr Hillier bod tri llwybr gwahanol gyda phrofion sgrinio serfigol.

Dywedodd: "Os ydym yn dod o hyd i risg uchel o HPV yn eich sampl ond dim newid yn y celloedd, byddwn ni'n dod â chi'n ôl am brawf mewn blwyddyn.

"Os yw hynny'n parhau, byddwn ni'n edrych arnoch bob blwyddyn am gyfnod o dair blynedd, felly ry'n ni'n sicr yn edrych ar y menywod hynny ac yn sicrhau ein bod yn eu monitro," ychwanegodd.

"Os ydych yn profi'n bositif am HPV risg uchel a newidiadau celloedd, byddwn yn eich cyfeirio am adolygiad colposcopi oherwydd ry'n ni'n gwybod bod y ddau grŵp hynny o fenywod dan risg uwch o ddatblygu newidiadau i'r celloedd a chanser serfigol.

"Nawr ry'n ni'n gwybod os nad ydych yn dod o hyd i haint HPV risg uchel yn eich sampl y gallwn wedyn eich gwahodd chi ar gyfer sgrinio mewn pum mlynedd, yn hytrach na'ch dod â chi nol mewn tair mlynedd. Mae'r dystiolaeth, astudiaethau a data'r modelu'n dweud wrthon ni ei bod hi'n ddiogel i wneud hynny."

Ychwanegodd bod ymestyn y bwlch rhwng profion i bobl sydd ddim yn dangos risg uchel o HPV yn eu profion sgrinio serfigol yn "fantais" gan nad oes angen "dod nol â menywod a phobl sydd â gwddf y groth".

'Pum mlynedd yn gyfnod rhy hir'

Mae Nici Beech, 52, ymhlith y miloedd o bobl sydd wedi arwyddo deiseb yn galw am barhau i sgrinio merched bob tair blynedd.

Ar fwy nag un achlysur, ers dechrau cael ei sgrinio yn ei hugeiniau, mae hi wedi gorfod cael archwiliadau pellach a llosgi celloedd yng ngheg y groth yn dilyn canlyniadau abnormal.

Disgrifiad,

Nici Beech: "Mae pum mlynedd rhwng profion yn rhy hir"

Mae hi'n dweud bod cael ei monitro'n rheolaidd yn "rhoi ryw dawelwch meddwl" bod yr arbenigwyr ddim "yn mynd i golli dim byd".

Mae hefyd, meddai, yn helpu i ferched arfer cael y prawf, sydd "ddim yn brofiad pleserus ofnadwy" er ymdrechion nyrsys i helpu cleifion ymlacio.

"Po fwya' aml 'dach chi'n mynd am un po fwya' cyffyrddus ydach chi'n cymryd y prawf," meddai. "Wedyn mwya' tebygol ydach chi o 'neud yr apwyntiad pan 'dach chi'n ca'l eich gwahodd [i gael y prawf nesaf], yn fy marn i."

Mae hi'n teimlo y dylai Iechyd Cyhoeddus Cymru fod wedi rhoi mwy o eglurdeb wrth gyhoeddi'r penderfyniad i newid y drefn ddydd Mawrth.

"Os ydi petha' wedi symud ymlaen a bod petha'n fwy effeithiol, grêt," meddai, "ond dwi yn meddwl, dal i fod, bod pum mlynadd yn eitha' hir.

"Dwi'n dallt erbyn hyn bod pobol ifanc yn cael eu brechu yn yr ysgol, felly fyddan nhw ddim angen eu sgrinio falle mor aml yn y dyfodol, ond 'dan ni'n sôn fa'ma am ferched sydd heb gael eu brechu."

Pynciau cysylltiedig