Lauren Morais: Actores ifanc sy’n gwthio'r ffiniau

  • Cyhoeddwyd
Lauren Morais pan fuodd hi'n gwneud Monologau'r Maes yn Eisteddfod Amgen 2021 gyda'r cyfarwyddwr Steffan DonnellyFfynhonnell y llun, Lauren Morais
Disgrifiad o’r llun,

Lauren Morais pan fuodd hi'n gwneud Monologau'r Maes yn Eisteddfod Amgen 2021 gyda'r cyfarwyddwr Steffan Donnelly

"Doeddwn i ddim yn teimlo gymaint o groeso oherwydd bo' fi yn bi-racial.... Fi yn Wenglish, yn working class a dyw mam na dad fi ddim yn siarad Cymraeg... Ond fi yn gweld loads o bobl yn newid hwnna nawr..."

Mae Lauren Morais yn actores ac artist ifanc cyffrous sy'n barod i fynd yn erbyn y graen.

O Lanrhymni yng Nghaerdydd ac yn gyn-ddisgybl Ysgol Bro Edern mae hi'n 20 oed bellach ac yn astudio cwrs actio yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Roedd 2021 yn flwyddyn fawr iddi - fuodd hi yn rhan o lu o brosiectau amrywiol yn cynnwys creu cân gydag un o gerddorion mwyaf blaengar Cymru, actio mewn cyfres newydd sbon ar gyfer S4C, a chyd-ysgrifennu drama theatr.

Cymru Fyw fuodd yn sgwrsio gyda Lauren Morais am brosiectau 2021, am y Gymraeg, am hil ac am beth sydd i ddod.

Fi wedi bod yn brysur iawn…

Mae e wedi bod yn lot o hwyl. Mae mynd i'r Coleg wedi bod y peth gorau fi erioed wedi gwneud... jest actio a bod yn ffŵl trwy'r amser, ma' fe yn lyfli.

Fi wedi bod yn gwneud loads o brosiectau trwy'r flwyddyn ac mae e wedi bod yn madness

Ffynhonnell y llun, Zaid Djerdi
Disgrifiad o’r llun,

Lauren Morais

Nes i wneud trac gyda Sywel Nyw…

Hwnna yw highlight y flwyddyn - fi erioed wedi gwneud rhywbeth cerddorol o'r blaen, ddim yn professionally beth bynnag.

Ma 10/10 yn sôn am y pethau yna rydyn ni gyd eisiau dweud ond dydyn ni ddim yn dweud nhw. Fi'n meddwl bod e'n ddiddorol bo' ganddo ni gyd rhywbeth yn bubbling on our tongues.

Nid yw’r post yma ar YouTube yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar YouTube
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys YouTube.
I osgoi fideo youtube gan Sywel Nyw - Topic

Caniatáu cynnwys YouTube?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Google YouTube. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai YouTube ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Google, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys YouTube.
Diwedd fideo youtube gan Sywel Nyw - Topic

Fi wedi cael job actio cyntaf fi…

Yn gwneud Y Gyfrinach ar gyfer S4C. Roedd hwnna yn sick. Dw'i nawr yn sicr beth fi eisiau gwneud gyda fy mywyd…

Mae'n series newydd sydd lot i wneud gyda phobl ifanc a'r we a relationships gyda ffrindiau, bwlio a sut rydyn ni yn trin pobl. Mae lot o themâu yn ymwneud gyda thriniaeth o ferched hefyd.

Ffynhonnell y llun, Zaid Djerdi
Disgrifiad o’r llun,

Gweithio ar Sian of Arc gan Mari Izzard gyda Theatr Genedlaethol Ieuenctid Cymru. Roedd hi'n gyfres o ffilmiau fer wnaeth gyd-fynd gydag etholiad y Senedd pan gafodd pobl 16 a 17 oed yr hawl i bleidleisio am y tro cyntaf

Ma' fe wedi cael ei ysgrifennu gan Mari Beard a Hanna Jarman a Sion Ifan wnaeth gyfarwyddo. Fi'n meddwl bydd e'n rili gwahanol i S4C.

Dwi'n chwarae person sydd yn reallyfun, yn very opinionated, yn strong willed ac mae hi'n gwneud beth mae hi moyn rili. Ond eto mae hi yn flawed!

Fi hefyd wedi bod yn rhan o broses ysgrifennu…

Popeth ar y Ddaear gyda Fran Wen, sef drama spoken word i wneud gyda chynhesu byd eang.

Ma' fe wedi cael ei osod mewn distant future pan mae'r byd yn kind of dod i ben ac wedyn mae'r genhedlaeth ifanc yn rhoi bai arnom ni.

Ffynhonnell y llun, Coleg Cerdd a Drama Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Prosiect ail flwyddyn Coleg Cerdd a Drama Caerdydd yn ffilmio ffilm fer dwyieithog Mi Wn i Am Le gan Elgan Rhys. Cyfarwyddwyd gan Suzanne Packer

Oni'n meddwl am flynyddoedd…

Byddwn i ddim yn gallu bod yn rhan o'r diwylliant Cymraeg. Doeddwn i ddim yn teimlo gymaint o groeso oherwydd bo' fi yn bi-racial. Hefyd roeddwn yn teimlo bod fy Nghymraeg i ddim yn safonol neu ddigon perffaith.

Fi yn Wenglish, yn working class a dyw mam na dad fi ddim yn siarad Cymraeg.

Ond fi yn gweld loads o bobl yn newid hwnna nawr yn y diwydiant yng Nghymru a fi eisiau bod yn rhan o hwnna.

Os ni ddim yn challengio…

Wedyn bydd e'n aros yr un peth a fi'n meddwl ei fod yn beth pwysig ein bod yn gwneud pethau bi-lingual a chlywed Cymraeg sydd ddim yn berffaith trwy'r amser.

Does dim byd yn wrong gyda'r ffordd fi'n siarad - mae pobl yn deall fi ac yn gwybod beth fi'n dweud. Does dim byd yn wrong gyda rhywun sydd yn treiglo trwy'r amser chwaith, mae'n brilliant i nhw.

Gyda'r trac gyda Sywel Nyw fi wedi bod yn trio pwysleisio bod Cymraeg ddim yn safonol trwy'r amser achos ni gyd ddim yn rili siarad fel 'na.

I don't, felly pam byddwn i'n esgus bod yn rhywun arall?

Ffynhonnell y llun, @alperucho

Fi wedi bod yn creu..

Stwff fy hunan ac yn ysgrifennu stwff fy hun ond fi eisiau gwneud hwnna mwy yn 2022.

Fi'n berson creadigol sydd yn hoffi straeon, barddoniaeth a gwylio theatr. Fi'n meddwl bod y byd yma yn gadael i mi fod yn vulnerable ond mewn ffordd gyfforddus. Mae'n gadael i fi expressio fy hun ond mewn ffurf wahanol.

Ffynhonnell y llun, Lauren Morais
Disgrifiad o’r llun,

Lauren Morais yn adrodd cerdd 'Esbonio' Marged Tudur ar gyfer Hansh

Mae'r byd celf a theatr yn rhoi persbectif gwahanol i bobl a fi'n meddwl bod e'n beth pwysig i bobl, including me!

Yr unig ffordd fi'n gallu mynegi fy hunan yw trwy ysgrifennu yn greadigol. Dyma yw'r cam cyntaf i fi really expressio fy hun.

Fi'n hoffi edrych ar lot o themâu fel…

Iechyd meddwl, perthnasoedd, rhywioldeb, intersectional feminisim, hil, cefndiroedd a straeon pobl wahanol. Popeth human rili.

Fi'n meddwl bod y byd theatr wedi datblygu loads.

Mae mwy o'r themâu gwahanol hyn yn dod fyny ond fi yn meddwl bod angen mwy o honesty a bod yn barod i drafod y themâu yma.

Mae angen taclo'r themâu ma head on. Fi'n cofio lecturer astudiaethau African American amazing o'r enw Shondrika Moss-Bouldin yn dweud bod angen cael trafodaethau a bod yn onest gyda'n gilydd ond hefyd bod yn barod i messio lan a bod yn barod i rywun cywiro ti a dysgu o hynny.

Ffynhonnell y llun, Zaid Djerdi
Disgrifiad o’r llun,

Lauren Morais gyda Theatr Genedlaethol Ieuenctid Cymru

Fi wedi bod yn rhan o brosiect Did I Break…

Ni heb lawnsio fe yn llawn eto ond wnaeth Kyle Lima sefydlu fe gyda Anita Reynold ac Alexandra Riley a ma' fe yn edrych ar straeon pobl du ym myd ysgrifennu ac actio.

Ma' fe yna i rannu straeon sydd heb gael eu rhannu lot oherwydd hiliaeth yn yr industry perfformio o gwmpas y byd.

Mae'n rhoi'r platfform yna i actorion du actually cael ein straeon i'w clywed oherwydd ni yna.

Fi'n edrych ymlaen at y…

Gyfres newydd (Y Gyfrinach) ddod mas… fi'n really excited ond hefyd yn dreading it. Fi'n casáu gwylio fy hun.

Am y stori a'r effort mae pawb wedi rhoi mewn fi'n really excited i hwnna.

Fi hefyd yn gyffrous i ddechrau rhoi mas pethau fi wedi creu ar ben fy hun yn bersonol - barddoniaeth a ffilmiau fer - fi eisiau dechrau gwneud pethau yn amser fy hun.

Hefyd o ddiddordeb: