Pencampwriaeth Rygbi Unedig: Caeredin 34-10 Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Colli'n drwm oedd hanes Caerdydd yn yr Alban ddydd Sadwrn wrth i Gaeredin godi i frig y Bencampwriaeth Rygbi Unedig.
Fe sgoriodd y tîm cartref bum cais i sicrhau pwynt bonws.
Sgoriodd y ddau Archentwr, Ramiro Moyano ac Emiliano Boffelli, gais yr un yn y munudau agoriadol.
Pan ychwanegodd Mark Bennett a James Lang geisiau cyn hanner amser, roedd hi'n edrych yn ddu iawn i'r ymwelwyr.
Ond dim ond un arall ddaeth wedi'r egwyl - Bennett eto - gyda'r asgellwr Owen Lane yn cymryd mantais o gamgymeriad i sgorio unig gais Caerdydd.
Yn y cyfamser, bydd yn rhaid i Gaerdydd aros i weld difrifoldeb yr anaf a ddioddefodd James Botham i'w ben.
Cafodd y Cymro 23 oed ei ymestyn i ffwrdd ar ôl triniaeth hir a rhoddwyd ocsigen iddo.