Ceisio cael gwaharddiad llys i ddiogelu cyflenwad trydan

  • Cyhoeddwyd
Baglan Bay

Mae Llywodraeth Cymru yn ceisio sicrhau gwaharddiad llys i rwystro'r cyflenwad trydan i Barc Ynni Baglan ger Port Talbot rhag cael ei ddiffodd.

Pwerdy Baglan Operations Limited oedd yn cyflenwi trydan i'r stad ddiwydiannol trwy gysylltiad preifat, ond aeth y cwmni i'r wal ym mis Mawrth y llynedd, ac roedd y Derbynnydd Swyddogol yn bwriadu diffodd y cyflenwad ddydd Gwener.

Ond mae gweinidogion wedi ceisio cael gwaharddiad llys i rwystro hynny.

Dywed datganiad ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru, Cyngor Castell-nedd Port Talbot a Dŵr Cymru eu bod yn ceisio rhwystro unrhyw amhariad i'r cyflenwad trydan i'r parc tra'n ceisio sicrhau "datrysiad mwy hir-dymor".

'Canlyniadau catastroffig'

Mae llywodraethau Cymru a'r DU wedi bod yn trafod ffyrdd o sicrhau'r cyflenwad i'r busnesau, gyda Llywodraeth Cymru'n cyfrannu tuag at y gost o gysylltu'r busnesau i linell drydan newydd, ond gallai'r gwaith hwnnw gymryd 12 i 26 wythnos i'w gwblhau.

Dywed busnesau ar y stad y byddai "canlyniadau catastroffig" pe bai'r trydan yn cael ei ddiffodd.

Mae generaduron wedi bod yn cyrraedd y safle dros y dyddiau diwethaf, gydag un wedi'i leoli ar safle pwmpio carthffosiaeth.

Disgrifiad o’r llun,

Mae generaduron wedi eu gosod fel mesur dros dro

Mewn datganiad ar-y-cyd dywedodd David Rees AS a Stephen Kinnock AS eu bod yn croesawu'r cais am waharddiad llys.

"Mae'n siomedig bod Llywodraeth Cymru wedi cael eu gorfodi i gymryd y camau yma, oherwydd styfnigrwydd y Derbynnydd Swyddogol sydd wedi gwrthod dangos unrhyw ystyriaeth neu gonsyrn am yr effaith ar fusnesau lleol, swyddi, bywoliaethau, yn ogystal â pheryglon amgylcheddol a risg posib o lifogydd.

"Mae hefyd yn siomedig bod gweinidogion adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU wedi methu â chamu i mewn a defnyddio'r pwerau sydd ganddynt i gyfarwyddo'r Derbynnydd Swyddogol yn y mater yma.

"Rydym yn gobeithio y bydd y gwaharddiad llys yn llwyddiannus ac yn gadael digon o amser i gysylltu pob busnes ar y safle i'r grid cenedlaethol - proses sydd eisoes wedi cael ei hariannu a'i dechrau gan Lywodraeth Cymru."

Mae Parc Ynni Baglan wedi'i leoli ar ran o hen waith cemegau BP, ac mae'r safle wedi cael ei ailddatblygu dros y 25 mlynedd diwethaf.

Cafodd y pwerdy ei gomisiynu yn 2001 i gyflenwi trydan i'r stad drwy rwydwaith breifat, ac er nad yw'r orsaf bellach yn cynhyrchu trydan, mae'n ddolen gyswllt rhwng y grid cenedlaethol a busnesau'r parc.