Cwpan Pencampwyr Ewrop: Rygbi Caerdydd 33-36 Harlequins

  • Cyhoeddwyd
James Ratti'n sgorio un o geisiau CaerdyddFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

James Ratti'n sgorio ail gais Caerdydd

Roedd Rygbi Caerdydd yn anffodus i golli i Harlequins - o 33 i 36 - gyda chic olaf eu gêm yn Adran B Cwpan Pencampwyr Ewrop.

Roedd tîm Dai Young wedi haeddu gêm gyfartal o leiaf wedi perfformiad da, ond fe arweiniodd camgymeriad dan bwysau at ildio cic gosb.

Fe goronnodd Marcus Smith noson arbennig yn bersonol - fe gyfrannodd ei giciau 16 o bwyntiau - trwy sicrhau'r fuddugoliaeth i'r ymwelwyr.

Mewn gêm a gafodd ei chwarae tu ôl i ddrysau caeëdig oherwydd rheolau coronafeirws Cymru, fe sgoriodd y ddau dîm bum cais yr un.

Owen Lane (2), James Ratti, Dillon Lewis a Corey Domachowski wnaeth sgorio ceisiau Caerdydd.

Harlequins wnaeth sicrhau'r pwyntiau cyntaf yn fuan wedi'r gic gyntaf yn dilyn cais Louis Lynagh a throsiad Smith.

Daeth Caerdydd yn gyfartal wedi symudiad a ddechreuodd yn eu pen eu hunain o'r maes. Roedd y pas olaf i Owen Lane yn un berffaith ond oedd rhaid iddo ochrgamu'n gelfydd cyn tirio.

Wedi 18 munud o chwarae, roedd y tîm cartref ar y blaen, diolch i gais nerthol James Ratti a chicio cywir Jarrod Evans - er iddo fethu wedi hynny i ychwanegu pwyntiau o gic gosb.

Yn dilyn cyfnod o bwysau gan y Quins, fe gafodd y prop Dmitri Arhip ei hel i'r gell gosb ac fe fanteisiodd yr ymwelwyr ar hynny.

Tirodd Tyrone Green ond methodd Smith â throsi, gan olygu bod Caerdydd yn dal â'r fantais ar ddiwedd yr hanner cyntaf gyda'r sgôr yn 14-12.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Marcus Smith gyda'r bêl

Bu bron i'r Quins sgorio cais gwych ym munud gyntaf yr ail hanner cyn i'r TMO ddyfarnu bod Danny Care, cyn tirio, wedi camsefyll ar ddechrau'r symudiad.

Ond doedd dim amheuaeth dros gais Luke Northmore, tra roedd y tîm cartref yn dal i lawr i 14 dyn, gan gwneud hi'n 14-19.

Yn fuan wedi hynny, gyda Lewis ar y cae yn lle Arhip, yr ymwelwyr oedd un dyn yn brin yn dilyn trosedd gan y capten Dombrandt ar ei linell ei hun.

Manteisiodd Caerdydd ar hynny ac fe sgoriodd Lewis y cyntaf o dri chais gan y tîm cartref mewn pum munud rhyfeddol o rygbi.

Fe wnaeth ail gais Lane o'r noson sicrhau pwynt bonws i Gaerdydd, ac roedd yna basio campus cyn i Domachowski groesi'r llinell i'w gwneud hi'n 33-19.

Tarodd y Quins yn ôl gyda chais gan Care cyn i Gaerdydd unwaith eto golli chwaraewr wedi'r garden felen i Kirby Myhill.

Smith oedd y gwahaniaeth yn y pen draw oherwydd ei gais a'i drosiad wnaeth ddod â'r Quins yn gyfartal cyn y gic gosb dyngedfennol a seliodd y fuddugoliaeth i'r ymwelwyr a lle yn yr 16 olaf.

Pynciau cysylltiedig