Y Bencampwriaeth: Huddersfield 1-1 Abertawe
- Cyhoeddwyd
Roedd yna gêm gyfartal i Abertawe yn erbyn Huddersfield yn Y Bencampwriaeth ddydd Sadwrn wedi gôl hwyr gan Flynn Downes.
Dyma gêm bencampwriaeth gyntaf Abertawe ers 11 Rhagfyr a hynny yn erbyn tîm oedd ar rediad da.
Mae'r ddau dîm yn hoff iawn o gadw meddiant, ond yn yr hanner cyntaf Abertawe gafodd y gorau o'r meddiant ond nid y gorau o flaen y gôl.
Roedd y Terriers ar y blaen ar ôl chwarter awr. Wedi i Ben Hamer yn y gôl arbed ymgais Lewis O'Brian syrthiodd y bêl wrth draed Daniel Sinani o flaen rhwyd agored.
Yr oedd ymosodiadau Huddersfield yn llawer iawn mwy peryglus nag Abertawe ac oni bai am sawl arbediad gan Hamer byddai'r Elyrch ymhell ar ei hôl hi.
Ond daeth Abertawe allan ar gyfer yr ail hanner gyda llawer iawn mwy o frys a phwrpas yn eu chwarae.
Roeddynt yn bygwth gôl y tîm cartref yn barhaus, a mwyafrif y chwarae yn digwydd yn hanner Huddersfield.
Fe ddaeth gôl i Abertawe yn y diwedd, wedi cyd-chwarae crefftus rhwng Korey Smith a Flynn Downes gyda'r olaf yn unioni'r sgôr.
Yn y 12 munud wedi hynny daeth Huddersfield yn agos at gipio'r tri phwynt, ond heb lwyddiant.
Mae Huddersfield wedi gostwng i'r seithfed safle yn y tabl ac Abertawe yn parhau i fod yn safle 17.