Cwpan Pencampwyr Ewrop: Gweilch 10-25 Racing 92

  • Cyhoeddwyd
GweilchFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Roedd cryn lwyddiant i'r Gweilch ar ddechrau'r gêm yn erbyn Racing 92

Colli wnaeth Y Gweilch adref ddydd Sadwrn yn erbyn Racing 92 o Ffrainc yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop.

Yr ymwelwyr a sgoriodd gyntaf wedi i gic Maxime Machenaud eu rhoi ar y blaen o fewn saith munud ond yna llwyddiant i'r tîm cartref wedi cais cyntaf y gêm gan Keiran Williams a chic lwyddiannus Gareth Anscombe.

Toc wedi hanner awr roedd y sgôr yn 10-3 wedi cic gosb lwyddiannus gan Anscombe a dyna oedd y sgôr ar hanner amser.

Roedd yna gerdyn melyn i Will Griffiths o'r Gweilch ar ddechrau'r ail hanner ac yn ystod ei gyfnod i ffwrdd o'r cae fe aeth yr ymwelwyr ar y blaen wedi cais gan Virimi Vakatawa ac roedd cic lwyddiannus i ddilyn (10-15).

Ymestyn i 18 wnaeth sgôr Racing 92 toc wedi'r awr wedi cic gan Finn Russell (10-18) a thoc wedyn wedi cais i Teddy Thomas a chic lwyddiannus roedd y Ffrancwyr ar y blaen o bymtheg pwynt (10-25).

Doedd yna ddim sgôr i'r Gweilch yn yr ail hanner - y sgôr terfynol Y Gweilch - 10, Racing 92 - 25.