Cwest: Babi 'perffaith' wedi byw am 45 munud yn unig

  • Cyhoeddwyd
Chris ac Ellie James
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd mab Chris ac Ellie James, Callum, ei eni ar 5 Mai 2016 yn Ysbyty Glangwili

Roedd baban bach newydd-anedig "perffaith" wedi byw am 45 munud yn unig cyn iddo farw, ar ôl i feddygon fethu â'i adfywio.

Clywodd cwest yn Hwlffordd fod Callum Ragan James wedi ei eni ar 5 Mai 2016 yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin.

Dywedodd ei fam, Ellie James wrth y cwest ei bod hi wedi cael problemau wrth eni ei phlentyn cyntaf, Grace.

Roedd yr enedigaeth honno wedi bod yn "anodd", yn ôl Mrs James, am fod Grace yn fabi mawr ac roedd ganddi diabetes yn ystod genedigaeth.

Roedd Ms James felly yn bryderus y byddai ei hail blentyn yn anodd i'w eni.

'Gweld neb fwy nag unwaith'

Roedd Mrs James dan ofal ymgynghorydd o'r enw Dr Sanyal yn Ysbyty Llwynhelyg wrth iddi ddisgwyl Callum oherwydd ei phroblemau yn ystod yr enedigaeth gyntaf.

Dywedodd Mrs James ei bod hi wastad wedi cynllunio i eni ei phlant mewn ward yn Ysbyty Glangwili dan ofal meddygon yn sgil yr hyn ddigwyddodd gyda Grace.

Roedd hi a'i gŵr Chris yn bryderus bod rhai o'r sganiau yn dangos fod y babi yn mynd i fod yn un mawr.

Yn ôl Mrs James, doedd y cwpl "ddim wedi gweld yr un person fwy nac unwaith" yn ystod y cyfnod cyn i'r babi gael ei eni.

Ffynhonnell y llun, GIG Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Bwriad Ellie James oedd geni Callum mewn ward yn Ysbyty Glangwili dan ofal meddygon

Pan ddechreuodd hi gael poenau geni ar 3 Mai, dywedodd ei bod hi'n bryderus am eu bod nhw'n "fwy poenus" o'u cymharu gyda'r enedigaeth gyntaf.

Fe aeth hi i gael ei hasesu yn Ysbyty Llwynhelyg, cyn cael ei hanfon i Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin.

Er ei bod hi wedi disgwyl bod ar ward dan ofal meddygon, fe gafodd ei thrin yn yr uned famolaeth dan ofal bydwragedd.

Dywedodd Mrs James ei bod hi wedi cwyno am boen yn ei bol wrth iddi gael ei harchwilio. Cafodd ei rhoi wedyn mewn pwll geni.

Dywedodd nad oedd hi'n cofio a oedd curiad calon y baban wedi cael ei fesur tra'i bod hi yn y dŵr.

'Cryn dipyn o boen'

Dywedodd Mrs James wrth y cwest ei bod hi wedi mynd i deimlo yn dwym iawn yn sydyn.

Fe ddechreuodd hi deimlo'r angen i ddechrau gwthio, ond ar yr un pryd roedd ganddi boen yn ei bol.

Pan ddaeth y fydwraig oedd yn gofalu amdani, Ebba Lewis, 'nôl i'r ystafell, fe sylwodd hi ar dipyn o waed yn y pwll. Fe gymerwyd curiad calon y baban, oedd yn 80 curiad y funud.

Dywedodd Mrs James wrth y cwest ei bod hi'n teimlo yn "bryderus iawn" ac mewn "cryn dipyn o boen".

Er bod yna gynllun i'w symud hi i'r ward, fe ddaeth hi'n amlwg bod yr enedigaeth ar fin digwydd.

Cafodd Callum ei eni yn gymharol gyflym ac roedd yn "berffaith ond yn fach".

'Cyflwr gwael'

Sylweddolodd Mrs James fod rhywbeth o'i le wrth iddyn nhw dorri llinyn y bogail yn gyflym a rhoi Callum ar fwrdd.

Yn ôl Mrs James: "Roedd e'n edrych yn hollol berffaith pan gafodd ei eni."

Yn fuan wedyn cafodd Mrs James wybod gan bediatrydd bodd Callum mewn "cyflwr gwael".

"Doedden ni ddim ar unrhyw bwynt yn meddwl bod hyn yn mynd i ddigwydd," meddai.

Gofynnwyd i Mrs James gan y crwner, Paul Bennett, a oedd y boen wnaeth hi ddioddef yn "eiliad dyngedfennol".

"Mae'n bosib," oedd ei hateb. "Roeddwn i yn pendroni beth oedd y boen."

Ffynhonnell y llun, Ellie James
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r teulu wedi plannu coeden er cof am Callum

Clywodd y cwest ddatganiad ysgrifenedig gan Dr Sanyal o Ysbyty Llwynhelyg, yr ymgynghorydd fu'n gofalu am Mrs James yn ystod ei beichiogrwydd.

Fe roddwyd aspirin iddi am fod ganddi hanes o bwysau gwaed uchel yn ystod beichiogrwydd yn y gorffennol. Roedd profion am ddiabetes yn negyddol.

Bu'r fydwraig oedd ar ddyletswydd, Ebba Lewis, hefyd yn rhoi tystiolaeth.

Dywedodd hi wrth y cwest nad oedd "unrhyw bryderon am feichiogrwydd Mrs James" y tro yma, er iddi ddioddef problemau gyda beichiogrwydd blaenorol.

Gwadodd Ms Lewis bod Mrs James wedi sôn am unrhyw boenau anarferol yn ei stumog.

Yn ôl Ms Lewis, doedd dim rheswm i fynd â hi fyny i'r ward am fod y beichiogrwydd yn un arferol.

'Poenau arferol yn unig'

Dywedodd Ebba Lewis nad oedd hi'n "cofio unrhyw sôn am unrhyw boenau y tu hwnt i'r poenau geni arferol".

Fe aeth ymlaen i esbonio bod curiad calon y baban wedi cael ei gymryd yn rheolaidd, a'i fod o fewn y terfynau arferol.

Ar ôl gadael yr ystafell, dywedodd Ms Lewis ei bod wedi sylwi ar waed yn y pwll geni wrth ddychwelyd.

"Roedd y colli gwaed yn drymach na fydden i'n ei ddisgwyl yn ystod yr enedigaeth," meddai.

Llwyddwyd i dynnu Mrs James allan o'r pwll geni a'i rhoi ar wely.

Yn ôl Ms Lewis doedd hi ddim yn bosib mesur curiad y galon am fod y poenau geni yn rhy rheolaidd erbyn hynny, ond fe gofnodwyd cyflymder o 80 curiad y funud, er doedd hi ddim yn glir ai calon y fam neu'r plentyn oedd wedi cael ei fesur.

Nam ar linyn y bogail

Wrth i'r plentyn gael ei eni, dywedodd Ebba Lewis ei bod hi wedi rhyddhau llinyn y bogail o wddf y babi ac fe roddwyd y plentyn i orwedd ar fola'r fam.

Yn ôl Ms Lewis roedd Callum yn "welw ac yn llipa" a doedd dim ymateb gan y plentyn. Fe alwyd meddygon i gynorthwyo gyda'r ymdrechion i'w adfywio.

Dywedodd Ms Lewis ei bod hi wedi sylwi ar nam ar linyn y bogail wrth i'r brych gael ei eni. Roedd y llinyn ynghlwm gyda'r meinwe yn hytrach na'r brych ei hun.

Gofynnodd y crwner, Paul Bennett, a oedd golwg y llinyn yn cydfynd gyda "rhwyg" ac fe gytunodd Ms Lewis fod hynny'n bosib.

Fe groesholwyd Ebba Lewis gan Jodie Kembrey, bargyfreithiwr ar ran y teulu.

Gofynnwyd i Ms Lewis a oedd Mrs James wedi cael cynnig prawf i weld a oedd gwaedlif wedi bod.

Mynnodd Ms Lewis ei bod hi wedi cael "cynnig bob prawf" ond bod y teulu yn awyddus i adael.

Dywedodd dau arbenigwr meddygol wrth y cwest yn Hwlffordd ei bod hi'n debygol taw gwaedlif sydyn oedd yn gyfrifol am farwolaeth Callum James a ddigwyddodd cyn iddo gael ei eni.

Yn ôl Patrick Forbes, doedd yna ddim lle i gredu fod beichiogrwydd Mrs James yn un "risg uchel" ac roedd hi'n hollol briodol i'w thrin hi yn yr uned famolaeth dan ofal bydwragedd yng Nglangwili.

Roedd o'r farn bod yna ddigwyddiad sydyn, tua diwedd y beichiogrwydd, wedi golygu fod y baban wedi colli gwaed yn sydyn.

Fe ategwyd ei sylwadau gan yr Athro Simon Mitchell. Roedd o'r farn fod y babi wedi marw oherwydd "sioc hypofolemig" ar ôl colli gwaed yn sgil gwaedlif sydyn.

Mae disgwyl i'r Crwner, Paul Bennett, gyflwyno ei gasgliadau fore dydd Mawrth.