'Lwc' fod neb wedi'u hanafu wrth i garreg daro bws

  • Cyhoeddwyd
M4Ffynhonnell y llun, Google

Cafodd chwaraewyr Tîm Pêl-droed Merched Caerdydd eu gorchuddio gan wydr ar ôl i ryw rai daflu carreg at eu bws ddydd Sul.

Dywedodd hyfforddwr y tîm James Fishlock ei bod "yn ffodus" na chafodd unrhyw un ei anafu yn y digwyddiad.

Roedd y bws yn dychwelyd ar hyd yr M4 ger Caerdydd ar ôl gêm oddi cartref yn erbyn Rhydychen.

Dywedodd Mr Fishlock ei fod ef ac eraill wedi eu gorchuddio gan wydr wedi ei dorri, ond i'r garreg lanio ar sedd wag ar ôl torri ffenest yn nho'r bws.

"Pe bai wedi taro unrhyw un fe allai yn hawdd wedi achosi anaf difrifol," meddai.

"Ond lwc oedd hi ein bod, oherwydd y rheolau ymbellhau Covid newydd, wedi gorfod cynyddu maint y bws, felly roedd yna 49 o seddi ac roedd y chwaraewyr yn eistedd ar wahân."

Dywedodd i'r bws gael ei tharo ger Magwyr, Sir Fynwy rhwng 18:00 a 19:00.

Disgrifiad o’r llun,

James Fishlock: 'Lwcus na chafodd unrhyw un anaf"

Dywedodd ei fod yn credu fod bws arall oedd hefyd wedi dod i stop wedi cael ei daro.

Ychwanegodd fod rhai pobl ar y bws yna wedi dweud iddyn nhw weld pobl yn taflu gwrthrychau o bont sy'n croesi'r M4.

"Heb fod eisiau bod yn or-ddramatig, ond roedd y bws 49 sedd yn teithio ar gyflymdra o 60mya.

"Pe bai wedi taro blaen y bws neu ddod dryw'r ffenest flaen, yna mae rhywun yn poeni beth allai fod wedi digwydd."

Pynciau cysylltiedig