Gostyngiad arall yn nifer y di-waith yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae'r gyfradd diweithdra wedi parhau i ostwng yng Nghymru, yn ôl y data ar gyfer diwedd y llynedd.
Yn ôl ffigyrau'r Swyddfa Ystadegau - ONS - roedd yna 51,000 o bobl yn ddi-waith rhwng Medi a Thachwedd y llynedd.
Y gyfradd diweithdra yng Nghymru ar gyfer y cyfnod oedd 3.4% o'i gymharu â 4.1% drwy'r Deyrnas Unedig.
Golygai hyn ostyngiad o 21,000 neu 1.4% o'i gymharu â'r un cyfnod y flwyddyn flaenorol.
Dywed y Swyddfa Ystadegau fod yna fwy o bobl mewn cyflogaeth yng Nghymru nag oedd yna cyn y pandemig.
Hefyd ar gyfartaledd bu cynnydd o 2.2 awr yn nifer yr oriau mae pobl yn ei weithio bob wythnos.
Yn y DU mae nifer y swyddi gwag ar ei lefel uchaf erioed, sef 1,247,999 rhwng Hydref a Rhagfyr y llynedd.