Cymru 'ddim yn diystyru' cyflogi staff heb eu brechu o Loegr
- Cyhoeddwyd
Mae Prif Weinidog Cymru wedi dweud na fyddai'n diystyru recriwtio gweithwyr y gwasanaeth iechyd o Loegr pe bydden nhw'n colli eu swyddi o ganlyniad i bolisi brechu'r GIG dros y ffin.
Ar hyn o bryd, bwriad y GIG yn Lloegr ydy cyflwyno polisi sy'n dweud fod yn rhaid i staff iechyd gael eu brechu er mwyn parhau mewn swyddi rheng flaen.
Does dim bwriad cyflwyno polisi tebyg yng Nghymru, a dywedodd Mark Drakeford y byddai unrhyw benderfyniadau recriwtio yn cael eu gwneud ar sail achosion unigol.
Daw wrth i Weinidog Iechyd Cymru rybuddio nad ydy Covid-19 wedi cyrraedd ei derfyn eto.
'Ni fyddwn yn mynd i chwilio amdanynt'
Bydd yn rhaid i staff iechyd yn Lloegr fod wedi derbyn o leiaf eu brechiad cyntaf erbyn 3 Chwefror, a chael dau ddos erbyn 1 Ebrill er mwyn cadw eu swyddi.
Mae galwadau wedi'u gwneud i oedi rhag cyflwyno'r polisi am y tro er mwyn atal prinder staff, ond mae Adran Iechyd Llywodraeth y DU wedi gwrthod y galwadau hynny.
Dywedon nhw mai "sicrhau fod staff wedi'u brechu yw'r peth iawn i'w wneud er mwyn amddiffyn cleifion".
Dywedodd Mr Drakeford ar raglen Broadcasting House BBC Radio 4 fore Sul: "Fyddwn ni ddim yn ei ddiystyru, ond byddai'n ddibynnol ar beth mae unrhyw un yn ei ddweud mewn cyfweliad pan yn gwneud cais am swydd.
"Dydyn ni ddim am wneud brechu yn orfodol yn ein GIG ni.
"Dydyn ni ddim wedi ar gyfer gwasanaethau gofal, oherwydd ry'n ni wedi llwyddo i berswadio'r mwyafrif llethol o bobl syn gweithio i'r gwasanaethau i wneud y peth iawn a derbyn yr amddiffyniad y mae brechiadau'n ei roi.
"Dydw i ddim yn disgwyl i ni fynd i chwilio am bobl sydd heb gael eu brechu, ond pe bai rhywun yn gwneud cais fe fyddan nhw'n cael eu cyfweld yn y ffordd arferol.
"Fe fydden ni'n edrych ar sail eu penderfyniad - ni fyddwn ni'n eu diystyru ond yn bendant ni fyddwn yn mynd i chwilio amdanynt."
Dywedodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan ar raglen Politics Wales ddydd Sul y byddai'n "naïf" i ymddwyn fel petai'r pandemig ar ben.
Ychwanegodd fod cyfraddau coronafeirws yn parhau'n "uchel iawn", er eu bod wedi gostwng yn sylweddol ledled Cymru dros yr wythnosau diwethaf.
Mae Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw am eglurder o ran pryd a sut y bydd y cyfyngiadau'n cael eu llacio.
Dywedodd Ms Morgan y bydd Llywodraeth Cymru yn amlinellu "sut mae'r tymor hir yn edrych" yn fuan.
Dyddiadau neu dystiolaeth?
Dywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, Russell George, nad oedd yn credu ei bod yn amser eto i lacio'r holl gyfyngiadau coronafeirws - fel gwisgo mygydau, pasys Covid a hunan-ynysu - ond galwodd am osod dyddiad i wneud hynny, a pha amodau fyddai angen eu cyrraedd er mwyn caniatáu'r llacio.
"Er ei bod yn dda iawn ein bod bellach lawr i lefel rhybudd sero, rwy'n credu bod angen i ni gael dim lefel rhybudd er mwyn dod â'r cyfyngiadau i ben," meddai.
Dywedodd llefarydd iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, fod angen i'r llywodraeth fod yn eglur am ba dystiolaeth sydd ei angen er mwyn llacio'r cyfyngiadau'n llwyr.
"Does 'na'r un ohonom, o unrhyw blaid, eisiau cadw'r mesurau diogelu mewn lle yn hirach na'r hyn sydd ei angen, felly mae angen i wybod pryd y gallwn symud, nid yn unig i bum diwrnod o hunan-ynysu, ond i'r un diwrnod," meddai.
"Dydw i ddim yn siarad am ddyddiadau, ond pa fath o dystiolaeth sydd ei angen arnom er mwyn cymryd y camau hynny?"
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd21 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd18 Ionawr 2022