Covid: Dros 4,000 o farwolaethau yn 2021

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
prawfFfynhonnell y llun, PA Media

Cafodd 61 o farwolaethau yn gysylltiedig â Covid eu cofnodi yng Nghymru yn wythnos gyntaf Ionawr eleni, yn ôl ffigyrau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol - yr ONS.

Mae hynny'n cymharu â 24 o farwolaethau yn yr wythnos flaenorol.

Ond yn ôl yr ONS byddai'r cynnydd wythnosol yma yn rhannol oherwydd bod rhai marwolaethau wedi bod yn hwyr yn cael eu cofnodi oherwydd y cyfnod o wyliau.

Cyfanswm y marwolaethau sy'n gysylltiedig â Covid ac sydd wedi eu cofnodi hyd yma yn ystod 2021 yw 4,009.

Mae'r ffigwr hwnnw yn cynnwys 202 ym mis Tachwedd.

Mae hynny'n cymharu â 1,133 o farwolaethau yn gysylltiad â Covid gafodd eu cofnodi yn 2020.

Y diwrnod gwaethaf yn ystod y pandemig, o ran nifer y meirw yw 11 Ionawr 2021 yn ystod yr ail don, pan gafodd 83 o farwolaethau eu cofnodi.

Hyd yn hyn mae 9,307 o farwolaethau yn ymwneud â Covid wedi eu cofnodi yng Nghymru.

Pynciau cysylltiedig