Cwpan Pencampwyr Ewrop: Sale 49-10 Gweilch

  • Cyhoeddwyd
Sale v GweilchFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Daniel du Preez sgoriodd bedwerydd cais Sale ar ddechrau'r ail hanner er mwyn selio'r pwynt bonws

Fe gafodd y Gweilch eu trechu'n gyfforddus oddi cartref yn Sale yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop brynhawn Sul.

Daeth y cais cyntaf i Sale wedi 14 munud, gyda'r asgellwr Tom Roebuck yn croesi'n hawdd yn y gornel yn dilyn cic wych i'w lwybr gan AJ MacGinty.

Fe ddaeth ail gais gan Arron Reed, sgoriodd o ddim yn dilyn gwaith gwych gan y blaenwyr Ben Curry a Bevan Rod, cyn i Joe Hawkins sgorio pwyntiau cynta'r Gweilch gyda gôl gosb i'w gwneud yn 14-3 ar yr egwyl.

Daeth cais arall i'r tîm cartref ar ddechrau'r ail hanner gan Ewan Ashman, cyn i Daniel du Preez sicrhau'r pwynt bonws wedi 51 munud.

Fe sgoriodd y Gweilch eu cais cyntaf ychydig funudau'n ddiweddarach trwy'r blaenasgellwr Harri Deaves, cyn i'r eilydd Curtis Langdon sgorio pumed cais i Sale.

Ychwanegodd Roebuck ei ail gais i'r tîm cartref gyda phum munud yn weddill, cyn i Jack Metcalf sgorio seithfed cais er mwyn selio buddugoliaeth swmpus.

Pynciau cysylltiedig