Clybiau nos i ailagor a'r rheol chwe pherson ar ben
- Cyhoeddwyd
Gall clybiau nos ailagor o ddydd Gwener yng Nghymru wrth i gyfyngiadau a gyflwynwyd i daclo Omicron ddod i ben.
Bydd y rheol chwe pherson mewn tafarndai a bwytai yn dod i ben, ac ni fydd yn rhaid i fusnesau orfodi rheolau pellter cymdeithasol.
Mae'r Prif Weinidog, Mark Drakeford hefyd wedi dweud wrth BBC Radio Cymru y bydd yna fwy o gyngor yn ystod y dydd i gartrefi preswyl "fynd yn ôl i'r sefyllfa o'dd 'da ni cyn Omicron".
Daw ar ôl i gyfraddau achosion Covid yng Nghymru ddychwelyd i'r lefelau a welwyd yn flaenorol fis Tachwedd diwethaf.
Dyma gam ola'r broses ddechreuodd bythefnos yn ôl o symud allan o lefel rhybudd dau ac yn ôl at lefel rhybudd sero.
Ac felly mae'r holl gyfyngiadau ychwanegol gafodd eu cyflwyno ar Ŵyl San Steffan mewn ymateb i'r amrywiolyn Omicron bellach wedi eu llacio.
Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford: "Mae penllanw ton Omicron wedi mynd heibio ac mae arwyddion cadarnhaol bod achosion y coronafeirws yn dechrau sefydlogi.
"Er hynny, mae angen i bawb barhau i gymryd camau i'w diogelu eu hunain - nid yw'r pandemig wedi dod i ben eto yn anffodus.
"Rydyn ni'n symud i lefel rhybudd sero a byddwn yn parhau i gymryd rhai camau diogelu pwysig, fel gwisgo gorchudd wyneb yn y rhan fwyaf o lefydd cyhoeddus dan do a chynnal asesiadau risg."
Mynnodd Mr Drakeford ar raglen Dros Frecwast bod cyfyngiadau ychwanegol y mis diwethaf wedi gwneud gwahaniaeth, gan "leihau y nifer o bobl yng Nghymru sydd wedi cwympo'n dost" a gwarchod y GIG.
Ychwanegodd: "Nawr ni yn y lle gorau o unrhyw wlad yn y Deyrnas Unedig i ddod mas o'r cyfyngiadau."
Beth arall sy'n newid?
Clybiau nos oedd yr unig fusnesau a gaewyd yn llwyr gan Lywodraeth Cymru mewn ymateb i don Omicron.
Bydd deddfau gweithio gartref hefyd yn dod i ben, ond mae'r llywodraeth yn parhau i annog hynny.
Ond bydd y rheolau ar gyfer gwisgo gorchudd wyneb, sy'n gymwys ar drafnidiaeth gyhoeddus ac yn y rhan fwyaf o leoliadau dan do cyhoeddus, yn parhau i fod mewn grym.
Ni fydd yn rhaid gwisgo masgiau mewn lleoliadau yn y diwydiant lletygarwch fel bwytai, tafarnau, caffis a chlybiau nos.
Bydd yn rhaid i bobl hunan-ynysu hefyd os ydyn nhw'n dal Covid, ond o ddydd Gwener bydd y cyfnod lleiaf sydd ei angen yn cael ei dorri o saith i bum niwrnod.
Mae angen pasys Covid o hyd ar gyfer digwyddiadau mawr, ac ar gyfer ymweliadau â sinema a theatr.
Llymach na Lloegr
Mae rheolau Cymru yn parhau i fod yn llymach na rhai Llywodraeth y DU yn Lloegr, lle nad oes unrhyw reolau cyfreithiol yn bodoli bellach ar orchuddion wyneb.
Yn Lloegr mae disgwyl i reolau ar hunan-ynysu ddod i ben ym mis Mawrth.
Nid oes unrhyw arwyddion yng Nghymru pryd y gallai gweinidogion Llafur leddfu eu rheolau Covid sy'n weddill, er bod y prif swyddog meddygol Dr Syr Frank Atherton wedi awgrymu y gallai swyddogion edrych ar ddod â phrofion torfol i ben yn yr haf.
Mae disgwyl i'r adolygiad ffurfiol nesaf o reolau coronafeirws Cymru gael ei gynnal erbyn 10 Chwefror.
'Golau ar ddiwedd y twnnel' i gartrefi gofal?
Pwysleisiodd y Prif Weinidog ar raglenni BBC Cymru fore Gwener bod dim cyngor swyddogol erioed yng Nghymru ynglŷn â niferoedd ymwelwyr â chartrefi gofal - penderfyniad y cartrefi unigol yw gosod rheolau ar ymweliadau.
Dan Lefel Rhybudd 2, roedd disgwyl i bob gweithle ddilyn camau gwarchodol ychwanegol dros dro yn sgil Omicron, gan gynnwys cadw pellter o ddau fetr.
Wrth i Gymru ddychwelyd i Lefel 0, mae'n bosib i gartrefi gofal ddychwelyd i'r drefn cyn Omicron, meddai'r Prif Weinidog, sy'n golygu "dim angen i wisgo mygydau wrth ymweld â rhywun yn eu hystafell eu hunain".
Bydd dim angen chwaith i brofi preswylwyr cartrefi gofal wrth adael a dychwelyd i'r safle, ond fe rybuddiodd Mr Drakeford bod angen dilyn y rheolau cyffredinol i osgoi heintio unigolion mewn llefydd "lle mae pobl fregus efo'i gilydd".
Mae'r corff sy'n cynrychioli'r sector yn cefnogi'r cyngor diweddaraf ond yn rhybuddio nad yw'n bosib i bob cartref lacio rheolau i'r un graddau.
Yn ôl Mario Kreft, cadeirydd Fforwm Gofal Cymru, bydd rheolwyr llawer o gartrefi gofal, sydd "methu yswirio rhag Covid-19" yn parhau i bwyllo wrth ganiatáu ymweliadau ac atal mynediad i unrhyw un â symptomau'r feirws.
"Yr hyn 'dan ni'n ei weld yw'r sector gofal yn agor," meddai, "[ond] nid allwn ni wneud hynny gydag ymwelwyr heb edrych ar elfennau eraill.
"Dyw e ddim cweir mor syml ag y mae'n ymddangos pan rydych chi'n ceisio cadw pobl yn ddiogel."
Ychwanegodd: "Rydan ni'n gallu gweld rhywfaint o olau ar ddiwedd y twnnel."
Mae Ceidwadwyr yn Senedd Cymru yn dweud y dylai gweinidogion nodi pryd maen nhw'n rhagweld y bydd y deddfau coronafeirws sy'n weddill yn cael eu codi.
Dywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, Russell George, fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru "ddweud wrth y cyhoedd pa bryd na fydd mwy o lefelau rhybudd yng Nghymru, oherwydd gyda normalrwydd o fewn pellter cyffwrdd, mae angen dyddiadau pan allwn ddysgu byw gyda'r feirws heb unrhyw fygythiadau pellach o gyfnodau clo i ddelio ag amrywiolion damcaniaethol".
"Mae hyn yn golygu cael gwared ar gyfyngiadau sy'n niweidiol i fusnes, gwneud gorchuddion wyneb yn fater o ddewis a hunan-gyfrifoldeb, a chael gwared ar basbortau brechlyn gorfodol, aneffeithiol a dibwrpas nad oes unrhyw brawf o hyd eu bod yn gweithio."
Dywed Mr Drakeford bod y llywodraeth, wrth ddychwelyd i'r drefn o adolygu'r cyfyngiadau coronafeirws bob tair wythnos, wedi amlinellu "amserlen pendant", a bydd y penderfyniadau nesaf yn cael eu gwneud ddydd Iau 10 Chwefror.
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar iechyd, Rhun ap Iorwerth bod llacio'r cyfyngiadau yn "galonogol" ac yn "gadarnhad bod 'na olau ar ben y twnnel yma".
Ychwanegodd bod angen i Lywodraeth Cymru "weithredu mesurau cadarn i ni allu dysgu byw gyda Covid fel haint endemig, ond gyda'r gallu i ymateb yn gyflym petai amgylchiadau'n newid", a chreu cynllun i adfer y Gwasanaeth Iechyd.
Mae cael gwared ar yr angen i ymbellhau yn gymdeithasol o fewn siopau a bwytai ac ati "yn ddi-os yn gam positif... a fydd, gobeithio, yn annog mwy o bobl i'r stryd fawr," medd pennaeth Consortiwm Manwerthu Cymru, Sarah Jones.
Bydd busnesau, meddai, yn parhau i gefnogi'r gofyn yn gyfreithiol i staff a chwsmeriaid wisgo mygydau ac yn cadw mesurau diogelwch "yr ydym wedi buddsoddi mor drwm ynddynt" fel sgriniau plastig ac adnoddau diheintio.
Cyfradd achosion
Mae cyfraddau achosion yng Nghymru yn parhau'n sylweddol is na'r uchafbwynt a welwyd ar ddechrau mis Ionawr, gyda'r gyfradd achosion yn 508.7 fesul 100,000 o bobl.
Yn y cyfamser gostyngodd nifer gyfartalog dyddiol y cleifion Covid mewn gwelyau ysbyty am y 12fed diwrnod yn olynol i 560 ddydd Mercher.
Dangosodd ffigyrau swyddogol am y tro cyntaf bod mwy na hanner y cleifion ag achosion wedi'u cadarnhau o Covid yn yr ysbyty yn cael eu trin am gyflyrau eraill.
Roedd tua 42.2% o gleifion Covid a gadarnhawyd yn cael eu "trin yn weithredol" ar ei gyfer ddydd Mawrth, tra bod 57.8% yn gleifion Covid "atodol" sydd yn yr ysbyty yn cael eu trin am gyflyrau eraill.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd25 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd25 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd14 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd9 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd5 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd31 Rhagfyr 2021