Covid-19: Cyfnod hunan-ynysu yn mynd lawr i 7 diwrnod

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Menyw'n defnyddio swab wrth edrych yn y drychFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd yn rhaid cael dau brawf llif unffordd (LFT) negatif er mwyn cael dod â'r cyfnod ynysu i ben

Mae'r cyfnod hunan-ynysu ar ôl i berson cael Covid-19 wedi cael ei gwtogi o 10 i saith diwrnod yng Nghymru gan fod "pwysau aruthrol" ar wasanaethau.

O 31 Rhagfyr ymlaen, bydd yn rhaid gwneud prawf llif unffordd ar ddiwrnodau chwech a saith o'r cyfnod hunan-ynysu, 24 awr ar wahân.

Os yw'r profion yn bositif, bydd yn rhaid i bobl barhau i hunan-ynysu.

Roedd 'na alw eisoes wedi bod ar Gymru i ddilyn Lloegr a newid y rheol.

Yr wythnos diwethaf, dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai cyfle i ail-ystyried y drefn ar 5 Ionawr.

Ond bydd y newid yn dod i rym ddydd Gwener, meddai'r Prif Weinidog, oherwydd bod "cydbwysedd y niwed wedi newid".

Disgrifiad o’r llun,

"Mae cyfnod y Nadolig bob amser yn un heriol," meddai Mark Drakeford yn ei ddatganiad diweddaraf

Dywedodd Mark Drakeford: "Mae gwasanaethau dan straen aruthrol.

"Mae'r Gwasanaeth Iechyd wedi bod yn gwneud gymaint i geisio dal i fyny ar waith nad oedd yn bosib ei wneud yn gynt yn y pandemig, tra'n rhedeg ymgyrch frechu a nawr, delio gyda rhagor o bobl yn mynd yn sâl.

"Mae staff yn y gwasanaethau yna hefyd yn mynd yn sâl oherwydd yr amrywiolyn Omicron newydd."

Ychwanegodd: "Nid dim ond yn y Gwasanaeth Iechyd y mae hyn yn digwydd, ond pethau fel trafnidiaeth gyhoeddus neu gasglwyr sbwriel a phethau ry'n ni'n dibynnu arnyn nhw."

Mae gwasanaethau ailgylchu yng Ngheredigion yn barod wedi cael eu heffeithio, yn ôl y cyngor, gan ychwanegu y gallan nhw ei chael hi'n anodd darparu "yr ystod lawn o wasanaethau" wrth iddyn nhw ddelio gyda lefelau uchel o staff sy'n hunan-ynysu.

Mae lefelau salwch staff ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yng ngogledd Cymru hefyd "yn cynyddu uwchben y lefelau disgwyliedig yn y gaeaf".

Ychwanegodd y Prif Weithredwr, Jo Whitehead, fod lefelau absenoldeb staff tua 7% yng Nghymru ar hyn o bryd.

Dywedodd bwrdd iechyd Hywel Dda bod cynnydd yn yr achosion Covid yn golygu bod nifer "uwch na'r arfer o weithwyr ar draws ysbytai, gwasanaethau cymunedol a gofal cynradd, gan gynnwys meddygon teulu, wedi'u heffeithio".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y newid yn effeithio ar bobl sy'n hunan-ynysu ar hyn o bryd

Mae'r newid i'r cyfnod hunan-ynysu yn effeithio ar bobl sydd yng nghanol cyfnod o hunan-ynysu ar hyn o bryd hefyd.

Daw wrth i gyfradd yr achosion Covid yng Nghymru godi i'r lefel uchaf eto - Omicron bellach ydy'r amrywiolyn amlycaf o Covid-19 yng Nghymru.

Dywedodd Dirprwy Brif Swyddog Meddygol Cymru bod achosion Omicron yn "dyblu mewn llai na thridiau".

Cymorth i Loegr

Cadarnhaodd Mr Drakeford hefyd y bydd Cymru yn aros ar lefel rhybudd dau yn dilyn yr adolygiad diweddaraf o gyfyngiadau Covid.

"Mae'r sefyllfa iechyd cyhoeddus yn parhau i fod yn gyfnewidiol iawn ac mae cyfnod y Nadolig bob amser yn un heriol wrth gasglu a dadansoddi data," meddai.

"O ystyried hyn, canlyniad yr adolygiad yw y byddwn yn parhau â'r trefniadau cyfredol ar gyfer amddiffyniadau lefel rhybudd dau yng Nghymru, wrth barhau i fonitro'r sefyllfa'n agos."

Dywedodd y Prif Weinidog hefyd wrth Aelodau o'r Senedd y byddai Cymru yn benthyca pedair miliwn arall o brofion llif unffordd i GIG Lloegr, gan ddod â chyfanswm y cymorth i 10 miliwn o brofion.

"Mae gan Gymru stoc sylweddol o brofion llif unffordd, sy'n ddigonol i ddiwallu ein hanghenion dros yr wythnosau i ddod," meddai.

Daw hyn er iddi ddod i'r amlwg fod nifer y profion llif unffordd sy'n cael eu dosbarthu gan fferyllwyr i'r cyhoedd yn cael eu cwtogi mewn rhannau o Gymru oherwydd bod yna "lai" ohonyn nhw ar gael.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mark Drakeford y bydd Cymru'n benthyg pedair miliwn o brofion llif unffordd i Wasanaeth Iechyd Lloegr

Absenoldebau'n 'brifo busnesau'

Croesawodd CBI Cymru'r penderfyniad gan ddweud ei fod yn "ddewis pragmatig" gan Lywodraeth Cymru wrth i fwy o weithwyr orfod hunan-ynysu.

Dywedodd cyfarwyddwr CBI Cymru Ian Price: "Wrth i gyfraddau heintiadau gynyddu, mae lefel yr absenoldebau o ganlyniad i hunan-ynysu'n dechrau brifo busnesau.

"Mae penderfyniad Llywodraeth Cymru i leihau'r nifer o ddyddiau ynysu o 10 i saith diwrnod gyda phrofion ar y dyddiau olaf yn ddewis pragmatig bydd yn gallu helpu cadw'r economi'n symud.

"Bydd profion llif unffordd yn parhau i fod yn hollbwysig yn y misoedd i ddod wrth i ni ddysgu i fyw gyda'r feirws a'i amrywiolion, felly mae'n hollbwysig bod y llywodraeth yn taclo'r heriau cyflenwad presennol a'n ymestyn eu hymrwymiad i gadw nhw'n rhydd ymhellach ymlaen na Mawrth 2022."

Ond mewn ymateb i'r cyhoeddiad, dywedodd Gweinidog Iechyd Cysgodol y Ceidwadwyr Cymreig Russell George ei fod yn "croesawu'r newid" ond ei fod yn "siom" na wnaeth Llywodraeth Cymru'r penderfyniad yn gynt.

Dywedodd: "Mae'n siom bod y Llywodraeth Lafur wedi gwrthod y newid wythnos ddiwethaf ond o leiaf maen nhw wedi gweld y dystiolaeth ac wedi newid eu meddyliau."

Ychwanegodd y dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno rhagor o dystiolaeth cyn gwneud penderfyniadau.

"Dyw hi ddim yn ddigon da eu bod eisiau cyflwyno cyfyngiadau, sydd ddim yn gwneud synnwyr, heb ddangos y dystiolaeth allweddol hon i ni i'w cyfiawnhau nhw."

Pynciau cysylltiedig