Pencampwriaeth Rygbi Unedig: Ulster 27-15 Scarlets

  • Cyhoeddwyd
Scarlets ac UlsterFfynhonnell y llun, Inpho
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y ddau dîm o fewn trwch blewyn i'r fuddugoliaeth am fwyafrif y gêm, cyn i'r tîm cartref garlamu ar y blaen yn y pymtheg munud olaf.

Ar noson wyntog yn Iwerddon, hanner cyntaf agos oedd hi rhwng y Scarlets ac Ulster gyda'r naill dîm yn ceisio dal i fyny â'r llall yn ystod deugain munud digon bywiog.

Gyda chic gosb i Ulster wedi dwy funud daeth maswr y Cochion, Dan Jones, â'r sgôr yn gyfartal 3-3 wedi naw munud.

Cais i Samson Lee o'r Scarlets wedi hanner awr, funudau ar ôl i Ulster dderbyn cerdyn melyn am dacl uchel ar Tom Rogers. Trosgais i Dan Jones i ddod â'r sgôr i 3-10 wedi wedi 29 o funudau.

Ond, buan iawn y tarodd Ulster yn ôl, gyda chais cyntaf y tîm cartref gan y canolwr Angus Curtis. Y sgôr yn 10-10 ar yr hanner.

Y tîm cartref oedd y ceffylau blaen yn ar ddechrau'r ail hanner, gyda phump pwynt ychwanegol i ddod â'r sgôr i 15-10 i Ulster ar ôl cais Sam Carter wedi 53 o funudau.

Ond, y Scarlets yn taro'n ôl gyda chais i'r prop, Kemsley Mathias ar ôl 62 o funudau. Y bêl yn mynd yn llydan wrth anelu am drosgais a'r sgôr yn 15-15.

Dau gais i Ulster ar ôl 65 o funudau, gyda Milasinovich a Gilroy'n ymestyn y bwlch ar y sgorfwrdd.

Gêm heriol i'r Scarlets - y sgôr terfynol yn 27-15 i'r tîm cartref.

Pynciau cysylltiedig