'Angen mwy i fabwysiadu plant sy'n aros am gyfnod hir'
- Cyhoeddwyd

Mae'r Gwasanaeth Mabwysiadu wedi llunio hysbyseb er mwyn rhoi mwy o wybodaeth am brofiadau plant hŷn
Mae ymgyrch wedi'i lansio er mwyn ceisio cael mwy o bobl yng Nghymru i fabwysiadu plant sy'n gorfod aros am gyfnod hir.
Yn ôl Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru mae "bechgyn, plant dros dair oed a phlant sydd â chefndir cymhleth yn gallu aros am gyfnodau hir cyn bod teuluoedd yn penderfynu eu mabwysiadu".
Fel arfer mae oddeutu 119 o blant, ar gyfartaledd, ar gael i'w mabwysiadu yng Nghymru ond mae 29 o'r plant hynny yn gorfod aros naw mis neu fwy cyn bod rhywun yn fodlon eu mabwysiadu.
Dywed y gwasanaeth y gall plant sydd â brodyr neu chwiorydd hefyd i'w mabwysiadu, aros 135 diwrnod yn hwy na phlentyn unigol wrth i ddarpar rieni boeni am y gost a diffyg lle.

Mae teuluoedd yn fwy tebygol o ofyn am ferched na bechgyn, medd y Gwasanaeth Mabwysiadu
Dywed cyfarwyddwr y Gwasanaeth Mabwysiadu, Suzanne Griffiths: "Mae ymchwil ymhlith gwasanaethau mabwysiadu yng Nghymru yn dangos fod y myth sydd yna am oed a rhyw plant yn parhau wrth i ddarpar rieni gredu bod plant iau a merched yn haws i ofalu amdanynt.
"Ond nid dyma'r achos bob tro gan fod pob plentyn ag anghenion a phrofiadau gwahanol, ac yn aml mae'n fwy anodd delio â phlentyn tawel.
"Yn aml, ry'n ni'n gwybod llai am brofiadau plentyn iau na phlentyn hŷn. Gyda phlant hŷn ry'n mewn sefyllfa well i ragweld beth fydd eu hanghenion.
"Ry'n yn annog pobl i ystyried pob plentyn wrth iddyn nhw ddechrau ar y broses o fabwysiadu."

Profiad Greg
Cafodd Greg, sydd bellach yn 28 oed, ei fabwysiadu pan oedd bron yn saith oed - mae e'n gweithio ym maes TG yn ystod y dydd ac yn DJ gyda'r nos.
"Rwy'n aml yn anghofio fy mod i wedi cael fy mabwysiadu - ry'n ni'n deulu arferol," meddai.
Dywed ei fod tua wyth oed pan ddeallodd beth oedd mabwysiadu - ac yn ei arddegau cynnar, darganfu nad oedd ei fam enedigol yn gallu gofalu amdano oherwydd camddefnydd sylweddau.
"Mae fy rhieni bob amser wedi bod yn agored ynglŷn â mabwysiadu - ac i mi mae wedi bod yn broses esmwyth," meddai.
"Rwy'n gwybod fod profiad pawb yn wahanol. Gall rhai pobl ddioddef o straen ôl-drawmatig oherwydd pethau sydd wedi digwydd iddyn nhw ac mae eraill yn mynd ymlaen i gael trafferth gyda phethau fel addysg a chymdeithasu.
"Fodd bynnag, rwy'n credu bod fy mhrofiad wedi bod yn gadarnhaol oherwydd y math o berson ydw i, neu, sut y gwnaeth fy rhieni drin pethau - mae'n gyfuniad mae'n debyg.
"I fod yn onest, dydyn ni ddim yn siarad am fy mabwysiadu ryw lawer - rydw i'n aml yn anghofio fy mod i wedi cael fy mabwysiadu gan ein bod ni yn deulu arferol."

I hybu eu hymgyrch mae'r Gwasanaeth Mabwysiadu wedi creu fideo o fachgen saith oed wrth iddo gwrdd â'i deulu newydd.
Actorion sy'n portreadu'r bachgen, a'r nod, medd y gwasanaeth, yw rhoi blas ar daith y bachgen wrth iddo addasu.
"Ry'n yn gobeithio y bydd yr hysbyseb deledu newydd yn helpu pobl sy'n meddwl am fabwysiadu i ddeall fod plant sydd wedi cael dechrau anodd wedi gorfod datblygu dulliau o ymdopi gyda'u sefyllfa ac felly bod angen amser, amynedd a chefnogaeth arnynt i setlo gyda theulu newydd," meddai Ms Griffiths.
"Mae rhai yn setlo yn haws nag eraill ond yr hyn sy'n bwysig yw eu bod yn gallu gwneud hynny yn raddol."

Nod yr hysbyseb yw cael mwy o bobl i fabwysiadu plant sy'n gorfod aros am gyfnodau hir
Yn yr hysbyseb mae'r plentyn yn ystod dechrau ei daith gyda'i deulu newydd yn mynnu gwisgo ei holl ddillad - gan gynnwys het, menig, gogls glas a welintyns melyn ac yn raddol mae'n hapus i'w diosg a gwylio ffilm gyda'i dad.
"Ry'n yn gobeithio y bydd yr hysbyseb yn annog mwy o deuluoedd, o bob cefndir, i fabwysiadu," medd Ms Griffiths.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Medi 2018
- Cyhoeddwyd11 Medi 2018
- Cyhoeddwyd21 Hydref 2017