Dathlu Blwyddyn Newydd Chineaidd wahanol eto eleni

  • Cyhoeddwyd
Hong KongFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd pobl ar draws y byd ddathlu'r Flwyddyn Newydd Chineaidd ddydd Mawrth

Wrth i bobl ar draws y byd ddathlu'r Flwyddyn Newydd Chineaidd ddydd Mawrth, bydd y dathlu i lawer o bobl yng Nghymru dal yn wahanol i'r arfer.

I rai, bydd rhaid aros blwyddyn arall am y dathliadau mawr traddodiadol, tra bo'r pandemig yn parhau i fod yn gefndir i weithgareddau.

Bydd eraill yn nodi'r achlysur am y tro cyntaf heb eu teulu estynedig arferol, ar ôl gwneud y penderfyniad dewr - ac anodd - i adael eu mamwlad a dod i Brydain yn ystod y misoedd diwethaf.

Dyna union sefyllfa Chris a Michelle, ar ôl symud o Hong Kong i Gaerdydd ym mis Gorffennaf fel rhan o'r cynllun fisa newydd y mae Llywodraeth y DU wedi'i gynnig i lawer o ddinasyddion y diriogaeth.

'Pobl mor neis yma'

Ar ôl colli hyder yn llywodraeth Hong Kong yn dilyn y camau ganddyn nhw, dan bwysau China, yn erbyn protestwyr o blaid democratiaeth yn y blynyddoedd diwethaf, roedd Chris yn teimlo ei bod yn bryd symud cyn i'r cyfle ddiflannu.

"Fy syniad cyntaf oedd symud i'r DU yn 2024 neu 2025, ond ar ôl llawer o brosesau a chyfreithiau newydd gan y llywodraeth, roeddwn i'n teimlo ei fod yn gymaint o argyfwng bod yn rhaid i mi adael Hong Kong yn syth," meddai.

Yn gyn-was sifil, mae Chris bellach yn gweithio mewn warws ac mae Michelle ar hyn o bryd yn chwilio am waith wrth iddyn nhw ddechrau bywyd newydd yng Nghaerdydd - un y maen nhw'n hapus amdano er gwaethaf yr heriau.

"Doeddwn i erioed wedi bod i'r DU o'r blaen, ond mae pobl mor neis yma," meddai Michelle.

"Dydy e ddim mor anodd ag oeddwn i'n meddwl."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Chris a Michelle symud i'r DU ar ôl colli hyder yn llywodraeth Hong Kong

Mae'r cwpl wedi gwneud cyswllt ag eraill o Hong Kong yn yr ardal er mwyn cymdeithasu, a dywedodd Chris fod cwrdd â mewnfudwyr eraill wedi helpu gyda'r broses o setlo hefyd.

"Doeddwn i ddim yn sylweddoli bod gan Gaerdydd gymaint o bobl o leiafrifoedd ethnig yn byw yn y ddinas," meddai.

"Mae'n ddinas amlddiwylliannol, sy'n dda iawn."

'Adlewyrchu ymrwymiadau hanesyddol'

Dangosodd ffigyrau'r Swyddfa Dramor ym mis Rhagfyr 2021 bod tua 88,000 o bobl o Hong Kong eisoes wedi gwneud cais am y fisa newydd, gydag amcangyfrifon cynnar Llywodraeth y DU yn rhagweld y gallai cymaint â 330,000 wneud cais i adsefydlu yn y bum mlynedd gyntaf.

Mae'r cynllun, sy'n gymwys ar gyfer pobl o Hong Kong a anwyd yno cyn i Brydain ddychwelyd y diriogaeth i China ym mis Gorffennaf 1997, wedi achosi tensiwn rhwng llywodraethau'r ddwy wlad.

Ond mae'r cynghorydd Susan Elsmore, cadeirydd Partneriaeth Mewnfudo Strategol Cymru, sy'n rhoi cymorth i'r newydd-ddyfodiaid wrth setlo, yn dweud bod gan y DU ddyletswydd "moesol" i gynnig cymorth.

"Mae'r llwybr newydd hwn sydd wedi agor o ran y fisa a'r prosesau cymorth sydd gennym yng Nghymru yn adlewyrchu ymrwymiadau hanesyddol y DU i bobl Hong Kong wrth drosglwyddo i China," meddai Ms Elsmore, sydd hefyd yn llefarydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar fewnfudo.

"Mae'n wych bod y DU wedi ymrwymo'n llwyr i'r cynllun hwn."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Chris a Michelle wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd - "dinas amlddiwylliannol, sy'n dda iawn"

I'r cymunedau Chineaidd sydd eisoes yng Nghymru, mae dathliadau'r Flwyddyn Newydd yn rhai tawelach unwaith eto gan fod y pandemig dal yn golygu llai o awydd am y digwyddiadau mawr arferol.

Mae teulu Olivia Lui yn rhedeg bwyty ym Mangor, Gwynedd - sir lle mai Chineaid yw'r grŵp lleiafrif ethnig unigol mwyaf, gyda phoblogaeth uwch nag unrhyw sir yng Nghymru heblaw Caerdydd, Abertawe a Rhondda Cynon Taf.

"Rydw i mor gyffrous ar gyfer y Flwyddyn Newydd Chineaidd, dyma'r amser gorau - yn enwedig os 'dach chi heb briodi, achos 'dach chi'n cael 'lai si', y pecynnau coch o arian," esboniodd.

"Ond 'di o ddim jyst am y pres! 'Dan ni hefyd yn gwisgo pethau newydd, yn golchi pob dim, yn hwfro ac yn glanhau'r tŷ y diwrnod cynt.

"Hefyd 'dan ni'n cael llwyth o fwyd - mae fel Nadolig i gyd eto."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r teulu Lui yn rhedeg bwyty ym Mangor, Gwynedd

Ei thad Andrew Lui ydy ysgrifennydd Cymdeithas Chineaidd Gogledd Cymru, ac mae'n cofio'r digwyddiadau cymunedol mawr oedd yn arfer digwydd cyn Covid.

"Fel arfer mae gennym ni ddathliad mawr yn rhywle fel Venue Cymru, rydych chi'n sôn am 500 o bobl," meddai.

"Ond oherwydd y pandemig, dim ond fel teulu neu grŵp bach o ffrindiau y byddwn ni'n cwrdd eleni."

Mae un peth yn gorfod parhau i ddigwydd, fodd bynnag - y ddawns llew flynyddol, fydd yn dal i gael ei pherfformio yn y bwyty fel y mae bob blwyddyn.

"Dwi'n gwybod ei fod yn ofergoelus, ond mae'n ffordd dda o ddathlu hefyd - y sŵn a phopeth, mae'n gyffrous."

Disgrifiad,

Mae teulu Olivia Lui yn rhedeg bwyty ym Mangor, Gwynedd

I'r rhai sydd am fod yn bellach o'u teuluoedd, bydd rhaid dibynnu ar negeseuon Whatsapp a Facetime i gadw mewn cysylltiad dros y Flwyddyn Newydd Chineaidd eleni.

Ond mae Michelle yn sicrhau ei mam bod y ddau yn gwneud yn dda hyd yn hyn yn eu hamgylchedd newydd.

"Dwi'n siarad 'efo hi o leiaf dwywaith yr wythnos - roedd hi eisiau anfon yr arian ataf fel paced coch ond nes i ddweud 'na, does dim angen i ti'.

"Fe allwn ni sgwrsio yn lle hynny. Mae siarad 'efo hi am ein bywyd bob dydd yn ddigon."

Pynciau cysylltiedig