Cyhuddo dyn 19 oed o droseddau terfysgaeth
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 19 oed o Gaerdydd wedi cael ei gyhuddo o droseddau'n ymwneud â therfysgaeth.
Cafodd Luca Benincasa, o ardal Yr Eglwys Newydd, ei arestio gan swyddogion gwrthderfysgaeth ddydd Mawrth.
Mae'n wynebu cyhuddiad o fod yn aelod o grŵp terfysgol - Feuerkrieg Division, a gafodd ei wahardd yn 2020.
Mae hefyd yn wynebu pedwar cyhuddiad o gasglu gwybodaeth sy'n debygol o fod o fudd i berson sy'n paratoi neu'n cyflawni gweithred terfysgol.
Fe wnaeth ymddangos yn Llys Ynadon Westminster ddydd Iau, ac fe gafodd ei gadw yn y ddalfa.
"Doedd dim perygl i'r cyhoedd ar unrhyw adeg," yn ôl y Ditectif Prifarolygydd Mark Pope o Uned Eithafiaeth a Gwrthderfysgaeth Cymru.
"Rydym yn gweithio fel rhan o bartneriaeth agos gyda'r cyhoedd i sicrhau y gallwn ni ymyrryd mor fuan â phosib i atal y rheiny sy'n agored i gael eu radicaleiddio."