Plymiwr yn marw yn dilyn digwyddiad ger Sir Benfro

  • Cyhoeddwyd
Arfordir Sir BenfroFfynhonnell y llun, Google Maps
Disgrifiad o’r llun,

Roedd sawl tîm achub yn rhan o'r ymdrech i roi cymorth i'r plymiwr

Mae plymiwr wedi marw ar ôl mynd i drafferthion ger yr arfordir yn Sir Benfro.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r ardal oddeutu 11:45 ddydd Sadwrn.

Roedd badau achub yr RNLI, hofrennydd Gwylwyr y Glannau o Newquay yng Nghernyw ac un o hofrenyddion gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru yn rhan o'r ymateb i'r alwad frys.

Mae lle i gredu bod y dyn yn dod o Gaerdydd ac ymhlith grŵp o dri pherson oedd yn plymio o ymyl traeth.

Yn ôl Gwylwyr y Glannau Aberdaugleddau, cafodd y dyn ei gludo i draeth yn Sain Ffraid ac fe wnaeth meddyg gadarnhau ei fod wedi marw.

Pynciau cysylltiedig