Y Bencampwriaeth: Stoke 3-0 Abertawe
- Cyhoeddwyd
Roedd hi'n noson i'w anghofio i Abertawe wrth gael eu trechu'n hawdd yn Stoke nos Fawrth.
Dechrau araf oedd hi i'r ddau dîm yn Stadiwm Bet365 gydag Abertawe dan bwysau trwy gydol yr hanner cyntaf.
Gwelodd cefnwr yr Elyrch, Cyrus Christie, gerdyn melyn wedi 26 munud cyn dwy arall i Matt Grimes ac Olivier Ntcham funudau'n ddiweddarach.
Ond wedi'r holl bwysau daeth gôl gynta'r gêm yn fuan yn yr ail hanner.
Gyda'r bêl yn disgyn i Jaden Philogene-Bidace, roedd ei ergyd yn ddigon i guro Andy Fisher yn y gôl.
Ond roedd gwaeth i ddod gyda Stoke yn dyblu'u mantais gyda 59 munud ar y cloc, diolch i Lewis Baker o'r smotyn.
Roedd yn dilyn llawiad ar y llinell gan Ryan Bennett, a welodd y cerdyn coch am y drosedd hefyd.
Gyda thîm Russell Martin lawr i ddeg dyn, sicrhawyd y fuddugoliaeth gyda ergyd o ongl dynn gan Jacob Brown yn cyrraedd cefn y rhwyd gyda 12 munud i fynd.
3-0 i Stoke a'r canlyniad yn golygu bod yr Elyrch yn aros yn 16eg safle.