Cyhoeddi enw plymiwr fu farw yn Sir Benfro

  • Cyhoeddwyd
Gerald CapelinFfynhonnell y llun, Llun teulu

Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enw plymiwr fu farw mewn digwyddiad yn Sir Benfro dros y penwythnos.

Roedd Gerald Capelin yn 57 ac o ardal Caerdydd.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad tua 11:45 ar 5 Chwefror, gyda'r RNLI, Gwylwyr y Glannau ac Ambiwlans Awyr Cymru'n rhan o'r ymateb.

Y gred yw bod y dyn yn rhan o grŵp oedd yn y môr.

Cafodd Mr Capelin ei gludo i'r lan yn ardal Sain Ffraid, ond nid oedd modd ei achub.

Mae ei deulu wedi diolch i'r gwasanaethau brys am eu hymateb i'r digwyddiad.

Pynciau cysylltiedig