Cadw swyddi lleol 'yn bwysig' i gymuned Llanfyllin

  • Cyhoeddwyd
safle Marrill
Disgrifiad o’r llun,

Mae cwmni peirianneg Marrill wedi derbyn benthyciad a chyllid ychwanegol gan y llywodraeth er mwyn achub y swyddi

Mae trigolion tref yng ngogledd Powys wedi croesawu'r newyddion bod dros 100 o swyddi wedi cael eu hachub ar ôl i Lywodraeth Cymru brynu ffatri a denu cwmni newydd i gyflogi'r gweithlu.

Bydd cwmni peirianneg Marrill yn sefydlu rhan o'i waith yn Llanfyllin ar safle lle bu cwmni cydrannau ceir Stadco yn cyflogi dros 120 o weithwyr.

Mae'r cwmni wedi sicrhau benthyciad mawr a chael cynnig cyllid pellach gan Lywodraeth Cymru er mwyn cadw'r swyddi yn y canolbarth.

Ym mis Hydref 2020 daeth y newyddion annisgwyl y byddai safle Stadco yn Llanfyllin yn cau.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Tom Ellis, cyn-faer Llanfyllin, bod pethau'n dechrau gwella yn y dref wedi cyfnod pryderus

Roedd gofid mawr yn y dref pan glywyd bod un o gyflogwyr mwyaf yr ardal yn cau drysau ei ffatri, yn ôl Tom Ellis, Maer Llanfyllin pan ymsefydlodd y cwmni yn y dref ddechrau'r 90au.

"Roedd ansicrwydd mawr ar y dechrau - roedd hi'n dipyn o sioc," meddai.

"Ond erbyn hyn mae pethau wedi gwella, ac mae'n bwysig cadw pobl leol yn y dref hefyd.

"Mae 'na gwmni trafnidiaeth yn y dre ac maen nhw wedi cael gwaith ganddyn nhw yn barod i redeg lawr i Coventry, achos mae'r cwmni sydd wedi prynu'r ffatri wedi dechrau yn Coventry ac wedyn mae ganddyn nhw [safle] yn Rochdale dwi'n meddwl, a'r trydydd lle yw Llanfyllin."

Disgrifiad o’r llun,

Mae cwmni Marrill yn y broses o sefydlu ei safle yn Llanfyllin gyda chymorth Llywodraeth Cymru

Cwmni peirianyddol yw Marrill. Mae'n cynhyrchu cydrannau dur ac alwminiwm i gerbydau cwmnïau fel Aston Martin, JCB a Caterpillar.

Mae'r cwmni yn y broses o sefydlu ei safle yn Llanfyllin gyda chymorth Llywodraeth Cymru, sydd bellach yn berchen ar y ffatri.

Mae'r trefniant rhwng y llywodraeth a Marrill hefyd yn cynnig opsiwn i brynu'r adeilad a'r iard ymhen pum mlynedd.

'Creu swyddi newydd'

Dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi bod y llywodraeth yn "benderfynol" o gadw swyddi a helpu i greu rhagor.

"Byddai colli'r cyfleuster hwn wedi cael effaith andwyol nid yn unig ar y dref ei hun ond hefyd ar gadwyni cyflenwi lleol a chymunedau gwledig cyfagos," dywedodd.

"Cyn gynted ag y daethon ni i wybod am fwriad Stadco i gau'r safle, buon ni'n chwilio am ateb a fyddai'n helpu i gadw'r swyddi hyn yn y dref."

Ychwanegodd bod y llywodraeth yn falch o "chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o ehangu gweithrediadau" a "helpu i greu mwy o swyddi newydd".

Wedi 18 mis o drafod a chwblhau'r broses o gael y ffatri, dywedodd cwmni Marrill ei fod yn "gyflawniad aruthrol", yn enwedig yn ystod y pandemig, a'u bod yn "gyffrous ar gyfer y cyfleoedd" sydd o'u blaenau.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y Cynghorydd Ann Williams bod y swyddi yn werthfawr i ardal fach fel Llanfyllin

Mae Marrill wedi sicrhau benthyciad saith ffigwr gan Fanc Datblygu Cymru ac wedi cael cynnig £700,000 o gyllid gan Lywodraeth Cymru tuag at y gost o fuddsoddi mewn peiriannau newydd.

Un darn enfawr o offer fydd yn cael ei osod yn y ffatri yw peiriant gwasgu sy'n pwyso 2,500 tunnell. Bydd rhaid tynnu rhan o do'r ffatri er mwyn ei gael mewn i'r adeilad yn y gwanwyn.

Yn ôl y Cynghorydd Ann Williams, aelod o gyngor y dref, mae symud y peiriant gwasgu yn arwydd o ymrwymiad y cwmni i Lanfyllin.

'Golygu lot fawr i ardal fel hyn'

Dywedodd: "Maen nhw'n dod â press mawr i fewn, mae'n dod o Sbaen a dyna fydd y mwyaf yn y DU. Felly mae hynny'n dweud rhywbeth.

"Dwi'n gobeithio eu bod nhw yma am oes, am yr hir dymor beth bynnag.

"120 o swyddi - tasech chi yng Nghaerdydd neu rywle 'sa chi'n medru dweud bod hynny'n debyg i 1,000 o swyddi. Mae'n golygu lot fawr i ardal fel hyn.

"Dan ni'n teimlo weithiau ein bod ni'n bell o Gaerdydd a dy'n nhw [y llywodraeth] ddim wastad yn cofio amdanom ni, ond y tro hwn maen nhw wedi cofio amdanom ni ac maen nhw wedi gwneud eu gorau i ni!"

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl un o drigolion y dref, Dewi Hughes, mae cadw'r cyflogau'n lleol yn bwysig

Wrth i bobl siopa yn lleol dros y blynyddoedd diwethaf mae canol tref Llanfyllin wedi cael cyfnod da.

Mae mwyafrif gweithlu'r ffatri yn byw yn yr ardal, felly mae cadw'r cyflogau yn lleol yn bwysig yn ôl Dewi Hughes, un o drigolion y dref.

"Mae'r ffatri yma yn ganolog i economi'r dref a'r ardal ac mae'n sylfaen materol fel petai i'r gymuned, felly mae'n hanfodol ac yn werthfawr iawn bod Llywodraeth Cymru wedi cefnogi'r fenter yma," meddai.

"Mewn cyfnod pan mae costau yn codi, trethi'n codi eleni, mae'n newyddion o fawr bwys i deuluoedd yr ardal."

Pynciau cysylltiedig