'Mae pizza fel crefydd yn Napoli'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Jez o gwmni pizza Ffwrnes yn sôn am hanes y pizza Napoletana

A hithau'n Ddiwrnod Rhyngwladol y Pizza mae Cymru Fyw wedi cael blas ar hanes y pizza a'r grefft o greu y pizza traddodiadol Napoletana o ddinas Napoli yn Yr Eidal.

Mae gan bawb ei hoff pizza, boed yn margherita, pepperoni, tri chaws, neu'r ham a phinafal ddadleuol, ac mae pawb i weld ag balchder yn eu dewis.

Mae'r pizza yn ganrifoedd oed ac erbyn hyn dyma'r bwyd mwyaf poblogaidd yn y byd. Ond er ei symlder mae'n rhywbeth sydd yn gallu hollti barn gyda'r pizza wedi newid yn ei siap a'i ffurf yn aruthrol ers cael ei allforio o'r Eidal yn yr 1940au.

Er hynny, o wres y Ffwrnes ym marchnad Caerdydd, gallwch ddarganfod Jez a Ieuan, neu Bois y Pizza o gyfres S4C, yn creu'r pizza yn ei ffordd wreiddiol gan ddilyn rheolau pizzaiuolo's Napoli.

Ers 2017 mae'r grefft o greu'r pizza Napoletana o dan warchodaeth ddiwylliannol UNESCO. Maen nhw "fel crefydd draw yn Napoli", ble mae dros dwy fil o pizzerias, meddai Jez Phillips.

Wrth greu toes gyda blawd man 00' o Napoli (y blawd mwya' mân) gyda burum ffres, dŵr a halen a'i orchuddio gyda thomatos San Marzano a chaws fiore di latte o'r Eidal, mae'r Ffwrnes yn cadw'r traddodiad Napoletana yn fyw yng Nghymru.

Gwrandewch ar Ieuan o Ffwrnes hefyd yn trafod y pizza Napoletana gydag Aled Hughes ar Radio Cymru (1.40)

Hefyd o ddiddordeb: