Ysbrydion a'r paranormal gan Rheinallt Rees, Podlediad Ofn
- Cyhoeddwyd
Mae ysbrydion wedi diddori'r cynhyrchydd, Rheinallt Rees ers yn blentyn ifanc iawn. Bellach mae wedi troi'r diddordeb hwnnw yn bodlediad o'r enw Ofn.
"Dwi'n cofio'n glir iawn gweld llyfrau ysbrydion ac UFOs a phethau tebyg ar silff lyfrau Nana (mam fy mam). Mae'r diddordeb yma yn y byd paranormal wedi parhau hyd at heddiw." meddai Mr Rees.
Ei ysbrydoliaeth i greu'r podlediad oedd y rhaglen deledu Strange But True.
Roedd eisiau sicrhau y byddai rhai straeon ffeithiol yn rhan annatod o'r podlediad yn ogystal â straeon Cymreig am yr hen ffordd o fyw a phrofiadau pobl gydag ysbrydion a phethau na ellid eu esbonio.
Ydi o'n credu yn y byd paranormal?
"O ran fy mhrofiad personol i gyda'r paranormal, dwi'n sicr wedi teimlo pŵer goruwchnaturiol mewn sawl lle ar hyd y blynyddoedd. Wrth weithio yn fy swydd bob dydd yn ffilmio dramâu teledu, dwi wedi ffilmio mewn sawl lle ofnus dros y blynyddoedd."
Penderfyniad hawdd iddo felly oedd troi'r diddordeb mewn i bodlediad.
"Cefais i'r syniad blynyddoedd maith yn ôl. I fod yn hollol onest dwi'n sicr iawn bod hwn yn syniad ers cael diddordeb yn y pwnc tra'n blentyn."
Beth yw rhai o'i hoff straeon paranormal neu ysbrydion Cymreig Rheinallt tybed? Cymru Fyw sydd wedi holi.
Ysbrydion y pâr priod, Aberystwyth
Yn ôl y sôn, cafodd cwpwl oedd newydd briodi eu dal mewn llanw cyflym tra'n cerdded ar draeth Aberystwyth. Wrth i'r llanw godi a cherrynt y môr gryfhau collodd y ddau eu bywyd.
Ers y diwrnod trist hwnnw mae 'na nifer o lygad dystion adeg llanw uchel yn Aberystwyth wedi sylwi ar gwpwl sy'n hapus ei byd yn rhedeg ar hyd y prom - yn cerdded lawr y grisiau a rhedeg mewn i'r môr a byth yn cael eu gweld eto.
Mae sawl llygad dyst wedi sôn bod eu traed ddim yn cyffwrdd y llawr, fel eu bod nhw'n arnofio yn yr awyr uwchben y dŵr.
Ysbrydion Llancaiach Fawr, Nelson, Treharris
Mae'r lle yma yn hollol anhygoel o rhan storïau ysbrydion.
Wrth wneud ymchwil ar gyfer pennod Llancaiach Fawr o'r podlediad fe wnes i gyfweld ag un o aelodau staff y lle.
Un diwrnod, yng nghanol dydd, cafodd un o'r staff eu galw i sortio drws oedd yn dirgrynnu'n ymosodol iawn, fel petai rhywun yn trio gwthio'r drws ar agor. Wrth i'r aelod staff drio agor y drws gallai deimlo bod bwlyn y drws (door knob) yn troi a throi yn ei law.
Wedi iddo agor y drws dyma'n cael sioc bod neb yr ochr arall. Wrth edrych yn yr atig uchod doedd neb yno. Sylwodd bod llawr yr atig ddim yn saff o gwbl a fyddai wedi bod yn amhosib i unrhyw un sefyll yno.
Wrth iddo gerdded yn ôl lawr y grisiau dyma'n sylwi bod bwlyn y drws ochr yr atig ddim yn bodoli. Doedd troi bwlyn y drws ddim yn bosib.
Aeth aelod o'r staff i sôn bod ysbryd perchennog gwreiddiol y tŷ sef Cyrnol Edward Pritchard i'w weld a'i deimlo o gwmpas y to. Yn ôl y sôn, gallai golli ei dymer yn rhwydd.
Y stori ysbryd symlaf
Ar noswaith dywyll oer, dyma ddyn ifanc yn sefyll ar blatfform drenau yn aros am y trên nesa' i gyrraedd. Wrth iddo aros yn amyneddgar fe allai weld dieithryn yn nesáu tuag ato.
Wrth nesáu gofynnodd "a fyddai'n bosib i chi jecio'r amser ar eich oriawr?" Wrth iddo adrodd yr amser i'r dieithryn fe ofynnodd gwestiwn arall, sef "ydych chi'n credu mewn ysbrydion?"
Wrth roi ei oriawr yn ôl yn ei boced dyma'r dyn ifanc yn troi i ateb y dieithryn. Er mawr sioc roedd y dieithryn yn y bowler hat ddu wedi diflanu'n llwyr.
Ar ôl dyddiau dyma'r dyn ifanc yn dod ar draws hen erthygl mewn papur newyddion. Allai deimlo'r ias lawr ei gefn wrth ddarllen y bennawd - 'Man falls to death waiting for train'. Wrth i'r dyn ifanc edrych ar lun yr erthygl allai weld wyneb cyfarwydd - wyneb y dieithryn yn y bowler hat.
Stori syml ond effeithiol.
Ysbyty Brenhinol Caerdydd
Wrth weithio ar bennod o'r podlediad ar Ysbytai Caerdydd, cefais y profiad cynta' o gyfweld rhywun am ei phrofiadau paranormal.
Wrth ymchwilio i straeon ysbryd yr Ysbyty Brenhinol, roedd sôn am ysbryd oedd yn cael ei gweld yn aml oedd yn cael ei adnabod fel y dynes lwyd.
Yn ôl yr hanes, os mae'r ddynes lwyd yn cynnig diod i chi mae eich marwolaeth yn agos iawn.
Roedd y cyfrannydd yn nyrs yn yr ysbyty bron i 60 blwyddyn yn ôl erbyn hyn.
Wrth weithio ar ddesg ward un noswaith dyma hi'n gweld un o'i chleifion yn cael sgwrs gyda nyrs arall. O'dd hwn yn od iawn iddi gan taw hi oedd yr unig nyrs oedd ar y ward yr adeg honno.
Aeth i weld y claf cyn iddo ddiolch am y diod yr oedd e' newydd gael wrth y nyrs arall a ddaeth i'w weld.
Ymhen 10 munud roedd y claf wedi marw.
Hyd yma, mae Rheinallt wedi cyhoedd saith pennod o'i bodlediad ac yn gobeithio y bydd yn gallu parhau i gyhoeddi'n wythnosol am beth amser eto.
Gwrandewch ar Rheinallt yn trafod ei bodlediad - Ofn - gydag Aled Hughes yma.