Y Bencampwriaeth: Abertawe 3-1 Bristol City
- Cyhoeddwyd
Daeth Abertawe yn ôl o gôl i lawr i guro Bristol City 3-1 wedi ail hanner gwych ar eu tomen eu hunain.
Yr ymwelwyr o Fryste oedd yn arwain yn haeddiannol ar yr egwyl diolch i rediad a gorffeniad gwych Andreas Weimann.
Ond daeth Michael Obafemi â'r sgôr yn gyfartal yn gynnar yn yr ail hanner cyn i'r amddiffynnwr Cyrus Christie, sydd ar fenthyg o Fulham, benio'r Elyrch ar y blaen.
Sgoriodd Joel Piroe yn y munudau olaf - ei gôl gyntaf mewn wyth gêm - i selio ail fuddugoliaeth yn olynol gartref i Abertawe.
Mae Abertawe yn dringo i 16eg safle yn y tabl, tra bod Bristol City yn disgyn i'r 17eg safle.