Celf y cymoedd gyda Alexander McQueen
- Cyhoeddwyd
Mae Cymru a'i chwedlau wedi bod yn ysbrydoliaeth i gwmni ffasiwn Alexander McQueen yn y gorffennol, gyda'r prif dylunydd Sarah Burton yn mentro i fyd chwedlau Cymru am ysbrydoliaeth ar gyfer casgliad o ddillad yn 2020.
Ac yn ystod y cyfnod clo mae'r cwmni wedi cryfhau'r berthynas gyda Cymru, gan gydweithio'n agos gyda grŵp o blant rhwng 12 ac 17 oed o Ferthyr Tydfil a Brynmawr ar brosiect creadigol wedi ei ysbrydoli gan dirwedd a chelfyddyd de Cymru.
Ymunodd dylunwyr Alexander McQueen gyda thri mudiad ieuenctid yn yr ardal, sef Clwb Coed Cae, Sefydliad Gellideg a Rotary Brynmawr i weithio gyda phobl ifanc mewn gweithdai ffasiwn, ffotograffiaeth a brodwaith.
Roedd yn gyfle i'r plant ddatblygu eu creadigrwydd a chael profiad o greu dillad a chelf dan arweinyddiaeth aelodau o dîm McQueen yn ogystal â Charlotte James, sy'n gyfarwyddwr creadigol o Gymru, a Clémentine Schneidermann, sy'n ffotograffydd yn byw yng Nghymru.
Mae'r grŵp o rhyw 25 o blant wedi rhannu lluniau o'u gwaith gyda Cymru Fyw:
Dyluniodd y grŵp ddillad eu hunain ac roedd ffrwyth eu llafur i'w gweld mewn sesiwn ffotograffiaeth yn Aberogwr ar ddiwedd y broses.
Mae'r lliw porffor golau yn ffrogiau Alexander McQueen yn gwrthgyferbynu gyda'r coch yn y wisg, sy'n liw cyffredin yng ngwaith McQueen ac hefyd yn chwedlau Cymru gan fod ffermdai yn cael eu peintio'n goch i gael gwared o ddrygioni.
Alisha White, un o'r bobl ifanc oedd yn rhan o'r prosiect, yn gwisgo het McQueen - cafodd y plant gyfle i ddatblygu eu syniadau eu hunain am wisgoedd a chelf.
Roedd cyfarwyddwr castio McQueen, sef Jess Hallett, yn annog y plant i ddewis aelod o'r teulu fel ysbrydoliaeth - dewisodd Calliegh ei mamgu, Pauline. Dyma nhw ar strydoedd Blaenau yn gwisgo gwisgoedd McQueen.
Ffion a'i mam yn modelu dillad McQueen.
Daniel Bishop, un o'r plant oedd yn cymryd rhan, wedi ei gladdu yn y tywod. Ar ôl dysgu brodwaith yng ngweithdai McQueen, defnyddiodd ei sgiliau newydd i addasu'r ffoto gyda brodwaith.
Dyluniad Melody Watts, un o'r plant yn cymryd rhan, o wisg McQueen.
Melody Watts sy' wedi creu'r dyluniad trawiadol yma yn ystod gweithdy McQueen
Un o'r bobl ifanc yn modelu, Amber Healey, mewn ffoto allan o lyfr dylunio Paige Watts. Dywedodd Michelle Hurter, sy'n helpu gyda Rotary Brynmawr: "Mae wedi bod yn brofiad anhygoel i'r bobl ifanc ac ni wedi cael cyfle i wneud pob math o bethau sy'n hwyl a'n rhyfeddol."