Pencampwriaeth Rygbi Unedig: Leinster 29-7 Gweilch

  • Cyhoeddwyd
Leinster v GweilchFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe sgoriodd Leinster gyfanswm o pedwar cais

Llwyddodd Leinster i sicrhau buddugoliaeth pwynt bonws dros y Gweilch nos Sadwrn, er gwaethaf amddiffyn arwrol ar adegau gan y rhanbarth o Gymru.

Daeth cais cynta'r gêm i Leinster, wrth i Jordan Larmour groesi wedi ychydig dros 20 munud.

Wedi i wythwr y Gweilch, Morgan Morris weld cerdyn melyn fe lwyddodd y tîm cartref i gymryd mantais, gyda'r prop Cian Healy yn croesi am gais yn syth wedi hynny i'w gwneud hi'n 15-0 ar yr egwyl.

Fe wnaeth James Lowe ychwanegu trydydd cais i'r Gwyddelod chwarter awr i mewn i'r ail hanner, cyn i'r mewnwr Rhys Webb daro 'nôl gyda chais i'r ymwelwyr.

Daeth y pwynt bonws i Leinster gydag ychydig dros bum munud yn weddill, gyda Scott Penny yn croesi y tro hwn.

Pynciau cysylltiedig