Pencampwriaeth Rygbi Unedig: Scarlets 23-29 Connacht
- Cyhoeddwyd
Fe gafodd y Scarlets eu trechu gan Connacht mewn gêm llawn cyffro yn Llanelli ddydd Sadwrn.
Y tîm cartref sgoriodd y cais cyntaf wedi 19 munud, gyda Johnny Williams yn croesi yn dilyn cic glyfar gan ei gyd-ganolwr Scott Williams.
Ond llwyddodd y Gwyddelod i daro 'nôl o fewn ychydig funudau, wrth i Sammy Arnold fanteisio ar gic letraws aflwyddiannus gan Dan Jones.
Fe wnaeth Leva Fifita groesi i'r ymwelwyr ar ddiwedd yr hanner cyntaf i'w gwneud yn 13-18 i Connacht ar yr egwyl, cyn i John Porch ychwanegu trydydd cais o fewn chwarter awr o ddechrau'r ail hanner.
Wedi ychydig dros awr cafodd y Scarlets gais cosb, gyda Fifita hefyd yn gweld cerdyn melyn am dacl anghyfreithlon pan yr oedd hi'n ymddangos fod Kieran Hardy ar fin sgorio.
Cafodd Fifita gerdyn melyn arall yn fuan wedi iddo ddod 'nôl i'r maes am dacl anghyfreithlon ar Ioan Nicholas oddi ar y bêl, gan olygu ei fod yn cael cerdyn coch.
Ond gyda dim ond ychydig funudau yn weddill, roedd Connacht eisoes wedi gwneud digon i sicrhau'r fuddugoliaeth.