Pencampwriaeth Rygbi Unedig: Dreigiau 0-12 Ulster
- Cyhoeddwyd
Doedd na'r un pwynt i'r Dreigiau wrth iddynt wynebu Ulster a thywydd stormus yng Nghasnewydd brynhawn Sul.
Er i'r Dreigiau ymdrechu'n galed aeth Ulster ar y blaen ar ddiwedd yr hanner cyntaf gyda chais gan y blaenasgellwr Marcus Rea a hynny er bod y Gwyddelod yn wynebu'r gwynt hefyd.
Roedd yr ail hanner yn golygu fod y gwynt o blaid Ulster ac fe ddaeth cais cynnar iddynt drwy ymdrech y pac cyfan a'r bachwr John Andrew yn hawlio pwyntiau.
Defnyddiodd Nathan Doak y gwynt yn rhyfeddol gyda'r gic er mwyn ychwanegu dau bwynt ac roedd Ulster ar y blaen o 12 pwynt i ddim.
Roedd na awch yn ymosod y Dreigiau ac er iddynt gael cic gosb ryw 20 metr o flaen pyst Ulster roedd y gwynt yn wyneb cic Sam Davies ac fe fethodd y gic.
Roedd y Dreigiau yn parhau i ymdrechu ond prin oedd y bygythiadau i Ulster.
Gyda phum munud yn weddill fe gafodd bachwr y Dreigiau gerdyn melyn am dacl beryglus.
Gorffennodd y gêm gyda deuddeg pwynt o wahaniaeth rhwng y ddau dîm a'r Dreigiau felly yn aros yn olaf ond un yn y gynghrair.