Parc Ynni Baglan: 'Byddai gwaharddiad llys yn gynsail peryglus'
- Cyhoeddwyd
Fe allai gorfodi person a benodwyd i ddirwyn cwmni i ben i barhau i ddarparu trydan i fusnesau ar stad ddiwydiannol "osod cynsail peryglus", mae llys wedi clywed.
Mae derbynnydd swyddogol Parc Ynni Baglan, dolen allanol yn herio cynnig cyfreithiol am waharddiad i rwystro'r cyflenwad trydan i'r parc ger Port Talbot rhag cael ei ddiffodd.
Mae pŵer o'r orsaf yn cael ei ddefnyddio gan fusnesau a gorsafoedd pwmpio.
Dywedwyd wrth yr Uchel Lys pe bai'n cael ei chaniatáu y byddai'r waharddeb yn gorfodi'r derbynnydd i weithredu y tu hwnt i'r pwerau sydd ganddo.
Cafodd yr orsaf bŵer nwy ei diffodd ym mis Gorffennaf 2020 ac mae pŵer wedi'i ddarparu trwy rwydwaith gwifren preifat trwy is-orsaf ar y safle.
Ond mae Llywodraeth Cymru wedi honni bod y derbynnydd swyddogol - un o swyddogion gwasanaeth methdaliad Llywodraeth y DU - wedi methu ag ystyried hawliau dynol busnesau a thrigolion wrth ddiddymu'r cwmni.
Mae Llywodraeth Cymru yn rhybuddio am berygl i fywyd, oherwydd gallai pympiau fethu os ydyn nhw'n dibynnu ar eneraduron, gan achosi llifogydd i gartrefi lleol.
Clywodd y llys y gallai melin bapur Sofidel orfod cau ei ffatri ar y safle gan golli mwy na 320 o swyddi.
Mae'r cais am waharddeb gan Lywodraeth Cymru, Dŵr Cymru, Cyngor Castell-nedd Port Talbot, a chwmni Sofidel, yn cael ei glywed yn yr Uchel Lys.
Dywedodd Daniel Bayfield, sy'n cynrychioli'r derbynnydd swyddogol, bod y derbynnydd yn cydymdeimlo, ond rhybuddiodd rhag "gosod cynsail peryglus".
"Byddai parhau i ddarparu trydan o dan yr amgylchiadau hyn yn hollol anghyson â swyddogaethau statudol y datodydd, ac y tu allan i gwmpas pwerau'r datodydd".
Gall datodydd, meddai, barhau gyda busnes dim ond lle mae "bwriad o ddirwyn y cwmni i ben".
"Nid ydyw gyda'r bwriad o osgoi canlyniadau andwyol i gwsmeriaid," meddai Mr Bayfield.
Dywedodd Ian Rogers, sy'n cynrychioli'r ymgeiswyr, fod Llywodraeth Cymru yn bryderus ynghylch "goblygiadau Deddf Hawliau Dynol yr achos hwn".
Dadleuodd fod y derbynnydd swyddogol wedi "gweithredu'n afresymol trwy fethu ag ystyried" hawliau dynol "llawer o bobl", gan gynnwys trigolion Baglan a busnesau a allai gael eu heffeithio gan ansawdd aer gwaeth a llifogydd.
Mae'r Ddeddf Hawliau Dynol yn gosod rhwymedigaethau ar gyrff cyhoeddus, ond wrth siarad ar ran yr ymatebwyr dywedodd Jessica Simor nad yw'r datodydd "yn cyflawni swyddogaeth gyhoeddus ac nid yw'n awdurdod cyhoeddus" o dan y ddeddf.
Dadleuodd nad yw'r Ddeddf Hawliau Dynol yn caniatáu i gyrff cyhoeddus weithredu y tu allan i'w pwerau, nac yn rhoi "pŵer crwydro eang i lysoedd i gamu i mewn pan fydd yn gweld problem y mae'n ei nodweddu fel problem hawliau dynol".
Er iddi ddweud y gallai Sofidel fod yn ddioddefwr fel y nodir dan gyfraith hawliau dynol o ran pwy all fynd â chorff i'r llys, dywedodd na allai'r hawlwyr eraill, gan gynnwys Dŵr Cymru, gan eu bod yn awdurdodau cyhoeddus.
Dywedodd nad oedd Sofidel wedi dangos bod y datodydd wedi ymyrryd â'i hawl dynol i eiddo.
Daeth y gwrandawiad i ben nos Fawrth, a disgwylir dyfarniad yn ddiweddarach.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd12 Ionawr 2022