Cymru'n gwrthod herio Rwsia mewn undod ag Wcráin
- Cyhoeddwyd
Ni fydd Cymru'n wynebu Rwsia mewn unrhyw gêm bêl-droed "yn y dyfodol agos" er mwyn dangos undod ag Wcráin.
Dywedodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru ei bod yn teimlo "tristwch a sioc eithriadol" yn dilyn ymgyrch filwrol Rwsia.
Mae gwledydd fel Lloegr, Sweden a Gwlad Pwyl eisoes wedi dweud na fyddan nhw'n chwarae gemau pêl-droed ar unrhyw lefel yn erbyn Rwsia.
Mewn datganiad nos Sul, dywedodd y gymdeithas ei bod yn "sefyll mewn solidariaeth gydag Wcráin" ac yn cydymdeimlo â'r bobl.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford fod y llywodraeth yn "croesawu'r penderfyniad".
"Mae Cymru yn sefyll mewn undod gydag Wcráin," meddai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd27 Chwefror 2022